Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych

💰 £19,138 pro rata 📍 O gartref📍 Wrecsam Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.

Dyletswyddau’r Swydd   Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   · Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi. 

· Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro.

· Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.

· Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.

· Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.

· Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd. 

· Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb. 

· Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.

· Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.

· Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.

· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.

· Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

· Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog.

· Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.

· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £19,138 pro rata

Lleoliad

📍 O gartref, Wrecsam

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,481 - £27,222 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29,116 - £35,627 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,450-£38,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £33,706 - £40,588 📍 Nantgarw Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £51,675 - £59,979 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £42,729- £49,600 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £28,866 - £44,450 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,561 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,433 - £32,980 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Llanuwchlyn Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Bangor Ar gau

💰 £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £33,000 – £36,961 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22,017 – £32,956 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,371 - £32,909 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Ynys Môn Ar gau