Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £36,838 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.

Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.

Cyfrifoldebau

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:

·   Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.

·   Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.

·   Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.

·   Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.

·   Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.

·   Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon. 

·   Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.

Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.

Manyleb Person

1.  Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.

2.  Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.

3.  Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.

4.  Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.

5.  Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.

Cyflog

💰 £36,838

Lleoliad

📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31,490 - £34,902 📍 Hyblyg📍 Hybrid Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £20,092 - £22,254 📍 Abertawe Ar gau

Menter a Busnes

💰 £24,657 - £27,433 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22,864 - £25,520 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Four Cymru

💰 Ar gais 📍 Caerdydd📍 Aberystwyth +1 Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

Cymdeithas Tai Bro Myrddin

💰 Oddeutu £44k 📍 Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Estyn

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

Barddas

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 £150 (yn cynnwys TAW) y cyfarfod 📍 Hyblyg Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23,337 - £25,311 📍 Pont-y-cymer Ar gau

Prifysgol Aberystwyth

💰 £23,487 - £26,341 📍 Hyblyg📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22,635 - £24,321 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £40,100 - £47,470 📍 Casnewydd📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34,304 - £40,927 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22,234 pro rata 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £24,317 - £30,579 📍 Llandysul Ar gau

Telesgop

💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Telesgop

💰 I'w drafod 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £17,757 - £21,728 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £40,578 - £43,570 📍 Llangefni Ar gau

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £28,226 - £33,486 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau