Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 O gartref📍 Pwllheli Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tîm Atal Digartrefedd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cyfrifoldebau Allweddol

1.      Sicrhau dealltwriaeth clir o ddarpariaeth cefnogaeth yn y maes atal digartrefedd gan ymateb i anghenion staff a defnyddwyr gwasanaeth fel bod Gorwel yn ffynnu. 

2.       Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn y llety ac yn y gymuned yn cael eu hateb yn effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth cefnogaeth holistig a pherson ganolig sy’n arwain at annibyniaeth.

3.     Trefnu rotas i sicrhau fod y prosiectau yn darparu cymorth uniongyrchol i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ôl galw’r cytundeb gwasanaeth. 

4.       Yn annibynnol, goruchwylio gan gymryd cyfrifoldeb o drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithiwyr cefnogi a mentoriaid y gwasanaeth.

5.       Adnabod a chynllunio’r rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o broses recriwtio, medrusrwydd a disgyblu.

6.       Gweithredu’n annibynnol o fewn ffiniau’r swydd, gan benderfynu pryd mae’n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth am arweiniad. 

7.       Cyfrifoldeb i sicrhau bod trefniadau priodol i reoli a monitro risg gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risg yn hyderus ac yn effeithiol.

8.       Ymateb yn gadarn gan weithredu ar unrhyw bryderon Amddiffyn Plant neu Amddiffyn Oedolion Bregus gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth cywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos.

9.       Rhoi arweiniad clir i weithwyr cefnogi drwy ddarparu cyngor a chymorth ymarferol ar reoli cynlluniau cefnogi.   10.      Arwain ar faterion deddfwriaeth budd-daliadau lles / diwygio lles er mwyn cynghori’r tîm yn hyderus. 

11.      Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer anghydfod budd-daliadau a thaliadau rhent defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys ôl ddyledion)    12.      Yn gyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r drefn cefnogi yn unol â gofynion statudol, deddf gwarchod a chytundeb gwasanaeth arianwyr.

13.      Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a chyflawni cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau sydd yn ymateb i ddeilliannau, ystadegau a gofynion arianwyr. 

14.    Paratoi adroddiadau o safon uchel yn chwarterol ar gyfer adolygiadau monitro arianwyr (e.e. Cefnogi Pobl) gan gynnwys mynychu cyfarfodydd chwarterol monitro. 

15.    Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i ddatblygu’r gwasanaethau ac unrhyw gynlluniau newydd.   16.    Yn rhan o baratoi a chyflawni adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai gan weithredu ar argymhellion.

17.      Cynorthwyo’r Gwasanaeth i baratoi hunan arfarniad blynyddol o’r gwasanaethau.

18.      Yn gweithredu fel prif gyswllt, gan gynnal perthynas gyda landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i’r defnyddwyr gwasanaeth.   19.      Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o dueddiadau a phynciau trafod cyfredol o fewn y maes cefnogaeth a thrais yn y cartref. 

20.      Ar y cyd â’r Rheolwr Gwasanaeth cymryd rhan flaenllaw o adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel yn y maes cefnogi. 

21.      Arwain wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogiad ar gyfer y cynlluniau. 

22.      Gwybodaeth eang am deddfwriaeth sy’n berthnasol i digartrefedd, trais yn y cartref a chefnogaeth. 

23.      Gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sydd yn cynnig “cefnogaeth a mwy”. 

Cyflog

💰 £28,235 - £30,854

Lleoliad

📍 O gartref, Pwllheli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau