Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy

Grŵp Cynefin

💰 £29k - £33k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Grŵp Cynefin yn edrych am Arweinydd Tenantiaethau Cynaliadwy

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau yn llwyddiannus. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn ein cymunedau.

Disgrifiad:

Cyfrifoldebau'r Swydd

1.       Gweithredu’n briodol i sicrhau cyflawni Strategaeth Cynhwysiad Ariannol, y cynllun gweithredu a gweithdrefnau tai eraill Grŵp Cynefin yn effeithiol.

2.       Ymchwilio, rhannu a throsglwyddo ymarfer da drwy fod yn bencampwr prosesau LEAN i’r timoedd tai a lles.

3.       Hyrwyddo a gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws y Gymdeithas i sicrhau bod ein darpariaeth yn addas, yn datblygu a ffynnu.

4.       Chwilio am gyfleoedd ariannol i deilwra gwasanaethau er budd ein tenantiaid.

5.       Datblygu ymgyrchoedd, fel darganfod grantiau, drwy gydweithio â partneriaid perthnasol er budd ein tenantiaid. 

6.       Arwain staff i sicrhau ein bod yn teilwra gwasanaethau a ffocysu ar wytnwch (resilience).

7.       Arwain i sicrhau bod tenantiaethau yn gynaliadwy. 

8.       Arwain i ddefnyddio ystadegau proffilio ein tenantiaid, paratoi adroddiadau a cynllun gweithredu sy’n cyfarch anghenion y busnes i’r dyfodol.

9.       Casglu a dadansoddi ystadegau ariannol tenantiaid i flaenoriaethu gwasanaethau ataliol. 

10.     Rheoli’r tîm lles a monitro achosion.

11.     Rhagweld a chyflwyno newidiadau yn effeithiol gan annog gwelliant parhaus, yn arbennig drwy ddulliau cyfoes a digidol.

12.     Sicrhau perthynas weithio dda â rhanddeiliaid perthnasol megis rhwng staff yr Adran Dai a’r Adran Gwaith a Phensiynau, awdurdodau lleol, undebau credyd, CAB a mudiadau lles eraill, a’r trydydd sector er mwyn cefnogi tenantiaid bregus.

13.     Sicrhau bod gwybodaeth gyfredol i gefnogi tenantiaid yn cael eu hybu, gan gynnwys ar wefan y Gymdeithas, Calon a’r cyfryngau cymdeithasol.

14.     Arwain yr adran i ystyried Gwerth am Arian ym mhob agwedd o'n gwaith, mesur llwyddiant hynny a pharatoi adroddiadau .

15.     Dirprwyo yr Arweinydd Tîm Casglu Incwm pan fod angen, gan arwain y tîm a sicrhau bod uchafu incwm Grŵp Cynefin yn cael blaenoriaeth.

Cyflog

💰 £28,860 - £33,482

Lleoliad

📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau