Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig

Telesgop

💰 I'w drafod 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Mae Telesgop yn edrych am Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cwmni Telesgop yn chwilio am ymchwilydd/gohebydd hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr gan weithio ar amrywiaeth o raglenni radio a theledu.

Disgrifiad:

Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni ond yn chwilio am bobl i weithio yn benodol ar y gyfres ‘Ffermio’ ar S4C, ‘Bwletin Amaeth’ a ‘Troi’r Tir’ sydd ar BBC Radio Cymru. Mae'r swydd yn gofyn am berson brwdfrydig, trefnus a chreadigol sy’n barod i ymchwilio, recordio a golygu cyfweliadau radio. Bydd gennych ddiddordeb yn y byd amaethyddol a gwledig, a byddai dealltwriaeth o olygu clipiau sain ar raglenni fel Audacity neu Adobe Audition yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant sylfaenol yn cael ei gynnig i chi baratoi, recordio a lleisio dau fwletin bob tair wythnos, eu pecynnu a'u cyfleu ar gyfer yr orsaf.

Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, ynghyd â’ch gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn.

Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych hefyd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth. 

Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am oddeutu 3 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr di-brofiad, a rhai mwy profiadol o bob cefndir.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr gyda'r offer recordio'n cael ei ddarparu.

Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, CV a ffeil mp3 munud o hyd o'ch llais yn cyflwyno’ch hunan wedi’i labeli ‘CAIS AM SWYDD YMCHWILYDD/GOHEBYDD MATERION GWLEDIG’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Abertawe, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Portal

💰 £27k - £30k 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Portal

💰 £26k - £27k+ 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £22k 📍 Beddgelert Ar gau

Antur Waunfawr

💰 £50k - £55k 📍 Waunfawr📍 Caernarfon Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 O gartref📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Llangefni Ar gau

Menter a Busnes

💰 £27k - £30k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k 📍 Aberystwyth Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £12k - £15k 📍 O gartref📍 Llanberis Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £28k - £30k 📍 O gartref📍 Sir Ddinbych Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £65k 📍 Casnewydd Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £90k - £100k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £90k - £100k 📍 Caernarfon Ar gau

CCW

💰 £34k 📍 Birmingham📍 Caerdydd Ar gau

Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

💰 £37k - £40k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

💰 £30k 📍 O gartref📍 Caerdydd Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 Hyd at £40k 📍 O gartref📍 Caerdydd Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £28.74 - £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 O gartref📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

GwE

💰 £16k - £17k 📍 Yr Wyddgrug Ar gau

Menter a Busnes

💰 Tua £90k 📍 Hyblyg Ar gau