Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd

Telesgop

💰 Cystadleuol 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.

Disgrifiad:

Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.

Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.

Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.

Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth. 

Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.

Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.

Cyflog

💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad

Lleoliad

📍 Abertawe, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau