Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch-gynorthwyydd TG

Menter a Busnes

💰 £23k - £26k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Uwch-gynorthwyydd TG

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau.    Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.   Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.     Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus.   Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:

·   reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;

·   ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff   Nod y Swydd   Bydd yr Uwch-gynorthwyydd TG yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr TG mewnol a darparwyr gwasanaethau allanol i ddarparu'r wasanaeth TG, drwy sicrhau cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, cynnal systemau a datrys problemau i safon uchel, a gweithio ar ddatblygiadau'r Adran TG.     Prif Gyfrifoldebau   ·   Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel

·   Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon

·   Bod yn ail bwynt cyswllt i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan gynnig cefnogaeth a hyfforddiant i gyd-weithwyr TG, rhannu gwybodaeth, helpu datrys ymholiadau, ac esgoli ticedi ble fod angen

·   Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant lefel uwch, a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn

·   Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo gwaith parthed â staffio a rheoli mynediad, gan sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn, amserlenni'n cael eu cwrdd a safon uchel yn cael ei gynnal

·   Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am asedion caledwedd, drwy gynnig cyngor a datrysiadau

·   Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith o ofalu am offer swyddfa a chyfleusterau TG, drwy gynnig cyngor a datrysiadau

·   Cefnogi'r Cynorthwywyr TG efo'r gwaith cynnal rheolaidd, drwy gynnig atebion, ffyrdd o liflinio prosesau, a sicrhau bod amserlenni addas mewn lle ac yn cael eu cwrdd

·   Adnabod gofynion, ymchwilio, caffael ac archebu caledwedd, meddalwedd, a gwasanaethau TG, gan sicrhau manylebau a nodweddion addas, gwariant priodol a gwerth am arian

·   Bod yn rhagweithiol i ymchwilio a datrys achosion a phroblemau, gweinyddu systemau a sicrhau parhad gweithrediadau

·   Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal isadeiledd TG y cwmni drwy'r Cylchred Bywyd gyfan (cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, systemau ffôn, fideogynadledda, argraffyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, gweinyddion, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad di-wifr)

·   Gweinyddu, gwasanaethu a chynnal systemau craidd, cwmwl a meddalwedd y cwmni (System e-bost a chynhyrchiant, datrysiad cadw data a chydweithio, system gwrth-feirws a diogelwch, system wrthgefn, system rheoli a monitro o bell, system rheoli diweddariadau, system rheoli dyfeisiau symudol, system rheoli cynnwys, system rheoli cleientiaid, a nifer o ddatrysiadau meddalwedd-fel-gwasanaeth)

·   Cyfrannu'n weithredol at waith datblygiadol a phrosiectau TG, arwain ar dasgau a ddyrannwyd, a sicrhau cwblhad o fewn amserlenni

·   Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol

·   Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys

·   Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data

·   Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi

·   Gweithio'n agos efo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol, a bod yn rhagweithiol am yr elfennau sydd o fewn eu cyfrifoldebau   Arall 

·   Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol

·   Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen   Sgiliau a Phrofiad   Cymwysterau / Profiad

Hanfodol

Gradd sylfaen neu HNC, neu gyfwerth, a/neu brofiad amlwg mewn maes perthnasol

Profiad amlwg o weithio a llwyddo mewn rôl TG gyda chyfrifoldebau technegol

Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd TG, a defnyddio system Desg Gymorth

Profiad amlwg o osod, cynnal a chadw caledwedd, meddalwedd, isadeiledd a systemau TG, a darparu cefnogaeth TG mewn amgylchedd busnes

Dymunol

Cymhwyster proffesiynol TG

Profiad technegol mewn seilwaith rhwydweithio a TG, gyda’r gallu i fod yn ymarferol yn ôl y gofyn   Gwybodaeth / Sgiliau

Hanfodol

Gwybodaeth a sgiliau cryf ar nifer o’r canlynol:

– Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android, ChromeOS, Linux, CentOS

– Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, ffôn ddesg, fideo-gynadledda, argraffyddion

– Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau a Phrosiectau, Amlgyfrwng, Meddalwedd Cyllid (Sage), System rheoli cynnwys (CMS), System rheoli cleientiaid (CRM)

– Isadeiledd: Technoleg cwmwl, gweinyddion, rhwydweithiau, cyfarpar rhwydweithiol, llwybryddion, waliau tân, switsys, pwyntiau mynediad diwifr, NAS, VPN

– Systemau TG: Swît cynhyrchiant (ee Google Workspace), Datrysiadau cynnwys a chydweithio, Diogelwch a gwrth-feirws, System wrthgefn, System ffôn VoIP, Rheoli a monitro (RMM), Rheoli diweddariadau, Rheoli dyfeisiau symudol (EMM, MDM, MAM)

Diddordeb cryf mewn, a gwybodaeth am, dechnolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu, a sut y gellir eu defnyddio at ddibenion busnes

Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Seiberddiogelwch, Cyber Essentials, GDPR, ac arferion gorau’r diwydiant TG   Nodweddion Personol

Hanfodol

Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gyda’r gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio ag ymholiadau gan staff

Gallu ymchwilio a datrys problemau, gan gynnwys rhai mwy cymhleth, drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau datrysiadau

Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â chefnogi eraill fel rhan o dîm

Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig

Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser

Sgiliau cyflwyno clir, diddorol ac ymgysylltiol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig

Dymunol

Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)   Arall

Hanfodol

Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.   Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Medi. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.    Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 15 Awst

Cyflog

💰 £22,864 - £25,520

Lleoliad

📍 Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Meifod, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau