Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

💰 £26k - £32k 📍 O gartref Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Ar-lein, i weithio gartref gyda lleoliad ger Aberhonddu, Powys. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.

Mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg i lefel 4 ar Fatrics Sgiliau Iaith Gymraeg y GIG yn hanfodol, yn ogystal â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gymhwyster cyfatebol) a bod yn gymwys ar gyfer aelodaeth raddedig gyfwerth gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.

Mae'r gofynion yn cynnwys safonau uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda o dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

* Hybu a gweinyddu’r gwasanaeth CBT Ar-lein, gan gynnwys cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr gwasanaeth ar y rhaglen, darparu manylion i roi’r cofrestriad ar waith, cyfathrebu â nhw, eu monitro a chynnig cefnogaeth glinigol trwy gydol y rhaglen. 

* Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan lynu at brotocolau atgyfeirio’r adran ac atgyfeirio cleientiaid anaddas i’r gwasanaeth perthnasol.   * Darparu cefnogaeth a chyngor i’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion, gan ateb unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw neu eu defnyddwyr gwasanaeth ynglŷn â CBT ar-lein. 

* Ysgogi, annog a chynnig cefnogaeth glinigol dros y ffôn/ trwy e-bost i ddefnyddwyr gwasanaeth gydol yr amser y maen nhw’n cwblhau’r rhaglen CBT Ar-lein. 

* Bod yn rhagweithiol wrth gynnig newidiadau i weithdrefnau a darparu cefnogaeth wrth gyflwyno’r newidiadau hyn. 

* Bod yn gyfrifol am reoli’r protocol ar gyfer monitro ac adrodd ar unrhyw rybuddion ynglŷn â risg, bwriad troseddol neu ddirywiad claf y bydd defnyddwyr yn rhoi gwybod amdanyn nhw naill o fewn y system CBT Ar-lein neu’n uniongyrchol. 

* Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunanatgyfeiriadau i’r gwasanaeth CBT ar-lein.

* Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n atgyfeirio cleifion ynglŷn â’r gwasanaeth CBT Ar-lein. 

Am fanylion pellach am y broses ymgeisio, ewch i: Swyddi Cyfredol - Swyddi Cyfredol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Gellir gweithio o gartref neu o bell. 

Mae'r swydd hon am gyfnod penodol o 2 flynedd. 

Cyflog

💰 £25,655 - £31,534

Lleoliad

📍 O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau