Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Addysg Gymunedol

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £22k 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

Mae Y Groes Goch Brydeinig yn edrych am Gydlynydd Addysg Gymunedol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn y Groes Goch Brydeinig. Byddwch yn rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol y Groes Goch a’n capasiti mewn cymunedau. Gan adrodd i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, byddwch yn rheoli partneriaethau a pherthnasoedd allanol yn y gymuned, ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau sy’n cael eu hariannu’n allanol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar ddarpariaeth dysgu cyfunol Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol yn gyson ac yn bodloni’r safon briodol o ran ansawdd. Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith go iawn, drwy ddysgu sy’n cael ei hwyluso ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Byddwch yn ein helpu i sicrhau bod miloedd o bobl wedi’u paratoi’n well i ddygymod a gweithredu os bydd argyfwng yn codi.

Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio ambell gyda’r nos a phenwythnos yn ôl y galw.

Dywedwch helo wrth y tîm:   Ein gweledigaeth yw byd lle bydd pawb yn cael yr help y mae arno ei angen mewn argyfwng Datblygwyd ein darpariaeth addysg ar gyfer y rhai y mae mwy o risg y byddant yn wynebu argyfwng. Rydym wedi cynllunio ein gwasanaeth er mwyn datblygu gwytnwch pobl fel unigolion ac mewn cymunedau, gan ddarparu sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ddygymod yn effeithiol a gweithredu mewn argyfwng. Mae arnom eisiau i bawb yn y DU gael cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/cael addysg, ac rydym wedi nodi grwpiau risg i gael y sgiliau a’r hyder i allu dygymod mewn argyfwng, er mwyn iddynt allu helpu eu hunain a phobl eraill.

Gallai hon fod yn swydd i chi:

· Os oes gennych addysg gydnabyddedig, hyfforddiant neu gymhwyster hwyluso (neu brofiad cyfatebol) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol

· Os oes gennych brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr

· Os oes gennych brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynnwys dysgu wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr

Cyflog

💰 £21,914

Lleoliad

📍 Abergele, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau