Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw corff llywodraethol Mudiad Meithrin a’i aelodau yw Ymddiriedolwyr yr elusen. Dyma gyfle cyffrous i berson brwdfrydig ddylanwadu ar waith cenedlaethol a strategol y Mudiad.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Senedd Cymru yn edrych am Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn rhanbarth canolbarth a gorllewin Cymru. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gweithgareddau ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau a sefydliadau...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Uwch-Ddarlithydd Pwnc (Cymraeg) Ym Maes Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fel rhan o'i hymrwymiad strategol i helpu i wella safonau addysgol yng Nghymru, mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Mae’r Adran eisoes wedi lansio cyfres...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Portal yn edrych am Swyddog Datblygu Cydberthnasau ar gyfer Prentisiaethau - Dwyieithog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i ddod o hyd i unigolyn angerddol, hynod egnïol ac uchel ei gymhelliant i ymuno â'n tîm bywiog fel Swyddog Datblygu Busnes. Rydym angen rhywun sy'n mwynhau cyrraedd targedau o fewn...
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae GISDA yn edrych am Bennaeth Gwasanaethau Cefnogi a Llety
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Datblygu, arwain a rheoli gwasanaethau llety a phrosiectau cefnogi GISDA sydd yn cwrdd a gofynion pobl ifanc digartref a bregus yn unol a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Llywio Canolfan Gyfraith y Gogledd yn edrych am Reolwr Datblygu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r rôl yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous i rywun ddechrau ar y gwaith o ddatblygu Canolfan Gyfraith yn y Gogledd, gan fapio’r angen cyfreithiol, cryfhau partneriaethau ac adnabod ble sydd....
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Cyfle prin a chyffrous i ddod yn Brif Weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Dysgu Cymraeg yn edrych am Diwtoriaid Dysgu Cymraeg - Tâl wrth yr awr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dan ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig, trefnus a chreadigol i ymuno â’n tîm o diwtoriaid i ddysgu dosbarthiadau ar-lein a/neu mewn lleoliadau cymunedol yn siroedd Gwynedd, Conwy a Môn.
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n un o lyfrgelloedd mawr y byd, yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau i’n helpu i rannu ein casgliadau a’n gwasanaethau...
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cornea Gymunedol yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle 12 mis i ymuno â Thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (cyfnod mamolaeth).
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Rhanbarthol Celfyddydau a Gwersylloedd Maldwyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd disgwyl i’r Swyddog ddenu grwpiau ac ysgolion newydd i fynychu Gwersylloedd yr Urdd a chystadlu yn Eisteddfodau Cylch/Rhanbarth yr Urdd.
Bydd y swyddog yn gyfrifol am weithredu ar dystiolaeth pe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cymwysterau
Cymwysterau Cymru
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cynorthwy-ydd CymwysterauCasnewydd, Cymru Amdanom ni Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Cymwysterau i ymuno â’n tîm yn barhaol, llawn amser gan weithio 37 awr yr wythnos. Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio hyblyg, rhan-amser ac yn ystod y tymor. Y Manteision
- Cyflog o £26,900 - £30,610 y flwyddyn- 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)- Trefniadau gweithio hyblyg- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil Y Rôl Fel Cynorthwyydd Cymwysterau, byddwch yn cefnogi un o'n tri thîm cymwysterau i sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr. Gan gefnogi rheolwyr a swyddogion, byddwch yn gweithredu amserlenni rheoli prosiect, yn adolygu tystiolaeth yn erbyn meini prawf ac yn hwyluso gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Gan ddarparu cymorth gweinyddol rhagorol, byddwch yn cadw cofnodion cywir, yn goruchwylio trefniadau cytundebol gyda chyflenwyr ac yn darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i gyfarfodydd. Amdanat ti I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Cymwysterau, bydd angen:
- Profiad o gynhyrchu a chadw cofnodion electronig effeithiol- Profiad o weithio i amserlenni y cytunwyd arnynt- Profiad o weithio'n effeithiol fel aelod o dîm- Y gallu i ddefnyddio technoleg ddigidol mewn lleoliad gweinyddol- Y gallu i ddrafftio dogfennau- Y gallu i drefnu a threfnu cyfarfodydd yn effeithiol- Sgiliau ardderchog o ran cymryd nodiadau a chofnodi- Sgiliau cyfathrebu cryf Byddai profiad o weithio yn y sector addysg yn fuddiol iawn, yn ogystal â phrofiad o weithio ar brosiect strwythuredig, gan gynnwys cadw cofnodion rheoli prosiect. Byddai gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru yn fanteisiol, yn ogystal â’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 6 Medi 2023. Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr Prosiect, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gweinyddwr, Gweinyddwr Addysg, Gweinyddwr L&D, Cydlynydd Prosiect, Swyddog Cefnogi Prosiect, Gweithiwr Prosiect Cynorthwyol, neu Gynorthwyydd Cefnogi Prosiect. Felly, os ydych chi am gymryd eich cam nesaf fel Cynorthwyydd Cymwysterau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £26,900 - £30,610 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae British Council Cymru yn edrych am Athrawon/Tiwtoriaid y Gymraeg ym Mhatagonia
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cydweithio gydag athrawon â thiwtoriaid er mwyn darparu addysgu deinamig a chynorthwyo wrth baratoi deunyddiau at ddefnydd y dosbarth yn ol anghenion lleol. Rhannu arfer gyfoes ym myd addysg o Gymru gydag athrawon yn y Wladfa er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg fel ail iaith. Cyfrannu at ddatblygiad y cwricwlwm Cymraeg yn yr ysgolion wrth ystyried eu hanghenion unigryw. Cydweithio gyda thiwtoriaid/athrawon er mwyn datblygu eu sgiliau proffesiynol a gwella eu sgiliau iaith. Bod ar gael i athrawon/tiwtoriaid holi ynglyn â materion sydd ynghlwm wrth ddysgu Cymraeg Ail Iaith. Creu dolenni rhwng ysgolion/asiantaethau yng Nghymru a’r Ariannin. Hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn y cymunedau lleol trwy drefnu gweithgareddau cymdeithasol a thrwy fynychu digwyddiadau a gwyliau diwylliannol (e.e. sermeoniau, eisteddfodau). eisteddfodau) Hyrwyddo gwaith y Cynllun yn yr ysgolion a’r dosbarthiadau trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Bod yn weladwy o fewn y cymunedau Cymreig fel cynrychiolydd o Gymru. Unrhyw ddyletswyddau pellach o fewn ffiniau rhesymol sydd yn rhan o’r ddarpariaeth Gymraeg yn y Wladfa.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad Swydd Patagonia 2024
Cyflog
💰 £750
Lleoliad
📍 Ariannin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Tiwtor y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym yn chwilio am Diwtor Cymraeg brwdfrydig a fydd yn gyfrifol am lunio a darparu ystod o raglenni dysgu i’n staff. Mae hyfforddiant iaith Gymraeg wedi cael ei nodi yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog, felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu’r cyfleodd a’r cymorth sydd ar gael i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg. Bydd deilydd y swydd yn arwain ar greu rhaglenni perthnasol ar gyfer gweithwyr y sefydliad, yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol a staff gweinyddol.
Bydd gan ddeilydd y swydd brofiad helaeth o weithio ym maes hyfforddi, ynghyd â gwybodaeth eang am, a dealltwriaeth gadarn o, faterion yn ymwneud â'r Gymraeg.
Mae’r gallu i deithio ar draws Gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Disgrifiad:
Bydd gan Diwtor y Gymraeg rôl allweddol i'w chyflawni o ran sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Safonau Cymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Nod y swydd hon yw ehangu'r cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i staff y Bwrdd Iechyd o ran dysgu'r Gymraeg ac i'w ddefnyddio. Bydd y swydd yn gyrru nod strategol y Bwrdd Iechyd yn ei flaen i gynyddu defnydd o'r Gymraeg o ran gweinyddu a darparu gwasanaethau gan fynd i'r afael â gofynion allweddol Safonau'r Gymraeg.
Bydd y tiwtor yn arbenigwr ar ddatblygiad a hyfforddiant y Gymraeg a bydd yn dylunio ac yn darparu rhaglen hyfforddi ac asesu cynhwysfawr ar gyfer staff newydd a staff sy'n bodoli eisoes i wella lefel y gwasanaethau cleifion sydd ar gael yn Gymraeg.
Cyflog
💰 £33,706 - £40,588
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyrsiau
Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Rheolwr Cyrsiau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Teitl y Swydd: Rheolwr Cyrsiau Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) Graddfa: Gweithredol 6 - £34,866 - £40,685 y flwyddyn Lleoliad: Gwersyll Llangrannog Amdanom ni Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol. Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd Croesawir dros 23,000 o blant a phobol ifanc i Wersyll yr Urdd Llangrannog yn flynyddol. Bydd y swydd yn gyfrifol am drefnu rhaglen ac amserlenni wythnosol a phenwythnos grwpiau sydd yn ymweld ar Gwersyll, gan sicrhau lefel uchel o ofal cwsmer. Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones (Cyfarwyddwr Gwersyll) ar 01239 652140 neu [email protected] Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 8 Medi 2023 Dyddiad Cyfweld – 21 Medi 2023 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Ffurflen Gais
Ffurflen Cyfle Cyfartal
Swydd Ddisgrifiad
Cyflog
💰 £34,866 - £40,685 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mentor Cynhwysiant
Grŵp Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Mentor Cynhwysiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Gweithio'n agos gyda Chydlynwyr Cefnogi Dysgu i adnabod anghenion cymorth, a pharatoi/diweddaru proffiliau un dudalen.Gweithio ar y cyd â Chydlynwyr Cefnogi Dysgu a staff i fonitro cynnydd a chynhwysiant dysgwyr ADY;Cynorthwyo gyda phontio a chynefino gan gynnwys ymweliadau ar gyfer dysgwyr newydd i'r coleg.Cynorthwyo gyda goruchwylio dysgwyr y tu allan i oriau gwersi, gan gynnwys cyn ac ar ôl y coleg ac amser cinio lle bo angen.Cynorthwyo Nyrs y Coleg, a'r Cydlynwyr Cefnogi Dysgu i fonitro ac adolygu cynlluniau cymorth meddygol;Darparu amser/gweithle tawel dan oruchwyliaeth y tu allan i'r dosbarth mewn Canolfannau Astudio o fewn Llyfrgell+ i ddysgwyr a nodwyd;Darparu cymorth Gofal Personol lle bo angen;Darparu cymorth i ddysgwyr mewn meysydd dysgu mwy arbenigol; Cyfathrebu a Rhyngweithio, Corfforol / Meddygol, Anghenion Dysgu Ychwanegol Penodol a / neu, Anghenion Synhwyraidd;Darparu sesiwn cymorth astudio galw heibio ychwanegol i ddysgwyr lle bo angen;Goruchwylio dosbarthiadau yn y tymor byr – mewn sefyllfaoedd wedi’u cynllunio a sefyllfaoedd annisgwyl nad ydynt wedi’u hamserlennu.Darparu cymorth Technoleg Gynorthwyol i ddysgwyr, i hyrwyddo a chefnogi dysgu annibynnol;Gweithio ar y cyd â staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill a darparu gwybodaeth am ddisgyblion fel y bo’n briodol;Cyfrannu at gyfarfodydd gyda rhiant (rhieni) / gwarcheidwad (gwarcheidwaid) i roi adborth adeiladol e.e. cynnydd/cyflawniad dysgwyr; Cysylltu â chyrff allanol yn ôl y galw;Unrhyw waith arall sy'n gymesur â'r raddfa gyflog, yn ogystal â sgiliau a galluoedd deiliad y swydd;Dylid nodi bod y Swydd Ddisgrifiad hwn yn cynnwys crynodeb o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd a bydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Gall hyn arwain at newidiadau yn sgil gofynion gweithredol y Grŵp.
Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description / Person Specification
Cyflog
💰 £10,593 - £11,219
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Maes: Dylunio
Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Arweinydd Maes: Dylunio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Arweinydd Maes: Dylunio Hoffech chi wneud gwahaniaeth i’r maes cyhoeddi yng Nghymru? Allwch chi helpu i gynnal a gwella safonau? Allwch chi fentora a datblygu sgiliau at y dyfodol? Beth am ymuno â thîm y Cyngor Llyfrau? Rydym yn awyddus i benodi rhywun sydd â’r profiad a’r weledigaeth i arwain gwaith strategol y Cyngor yn y maes dylunio. Bydd gennych sgiliau dylunio o’r radd flaenaf a/neu brofiad cynhyrchu mewn cyd-destun cyhoeddi, yn ogystal â dealltwriaeth trylwyr o anghenion dylunio llyfrau a chylchgronau. Hyd at 37 awr yr wythnos £39,493 y flwyddyn Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas ar eich cyfer chi, mae rhagor o fanylion ar www.llyfrau.cymru neu drwy e-bostio [email protected] Dyddiad cau: 11 Medi 2023
Gwybodaeth Ychwanegol: Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £39,493 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymddiriedolwyr (x2)
Cyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifiad: Cyngor Llyfrau Cymru: Ymddiriedolwyr Ydych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen? Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg? Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n awyddus i benodi hyd at ddau o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r un ar ddeg presennol fel aelodau o’i Fwrdd i sicrhau bod gan y Cyngor drefn rheoli sy’n briodol ar gyfer gofynion y presennol a’r dyfodol. Rydym yn sefydliad sy’n credu mewn amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd â gweithlu, bwrdd o ymddiriedolwyr a deunydd cyhoeddedig sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyfan. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau a lefelau profiad, sydd â diddordeb byw ym myd llyfrau, ac sy’n credu y gallant helpu i gefnogi’n gwaith a’n hamcanion strategol i gyflawni’r Gymru gynhwysol rydym wedi ymrwymo iddi fel sefydliad. Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn. Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, ond ad-delir unrhyw dreuliau rhesymol. Am ragor o fanylion ac i wneud cais – www.llyfrau.cymru, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd, ddydd Llun, 11 Medi 2023.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Ymddiriedolwyr
Cyflog
💰 Mae swydd Ymddiriedolwr yn ddi-dâl. Fodd bynnag, bydd pob cost resymol a achoswyd gan fusnes yr elusen yn cael ei had-dalu yn unol â’n polisi treuliau.
Lleoliad
📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.