Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweinyddol Gwasanaethau'r Gymraeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £22k - £23k 📍 O gartref Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Swyddog Gweinyddol Gwasanaethau'r Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson trefnus a brwdfrydig i ymuno â Gwasanaeth y Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cefnogaeth weinyddol i Dîm y Gymraeg, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n drefnus ac yn effeithiol.

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu gweithio'n gydwybodol i ymateb i anghenion y gwasanaeth, a hynny o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar.

Disgrifiad:

Gan weithio fel rhan o Dîm y Gymraeg, bydd deilydd y swydd yn rhoi cymorth gweinyddol llawn i'r Tîm. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeilydd y swydd reoli Porth Gwasanaethau'r Gymraeg, gan ddyrannu gwaith i aelodau'r Tîm Cyfieithu, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei ddychwelyd at gleientiaid yn brydlon. Bydd gofyn hefyd i ddeilydd y swydd reoli dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd, paratoi papurau cyfarfodydd a chymryd cofnodion. Bydd deilydd y swydd hefyd yn rhoi cymorth o ran rhaglen hyfforddiant y Gymraeg, gan gydlynu'r gronfa ddata a rheoli blwch negeseuon Tiwtor y Gymraeg trwy ddarparu gwybodaeth am gyrsiau i staff.

Gan weithio fel rhan o'r tîm, deilydd y swydd fydd y pwynt cyswllt cyntaf i'r tîm; gallai hyn hefyd gynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol eraill.

Cyflog

💰 £21,730 - £23,177

Lleoliad

📍 O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau