Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Marchnata

Gwasg y Bwthyn

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

Mae Gwasg y Bwthyn yn edrych am Swyddog Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Gwasg y Bwthyn awyddus i benodi unigolyn i wneud gwaith marchnata am gyfnod o 6-7 mis i gyflawni prosiect penodol ar ran y wasg.

Rydym yn chwilio am rhywun â dealltwriaeth dda o egwyddorion cyfathrebu effeithiol ynghyd â phrofiad o waith marchnata, neu sydd wedi dilyn cwrs coleg mewn marchnata, ac yn deall y maes gwaith.

Bydd angen i’r sawl a benodir fod yn gwbl gyfforddus gyda’r cyfryngau cymdeithasol, a pharatoi deunydd ar gyfer Facebook, Trydar, Instagram ac unrhyw gyfryngau eraill perthnasol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau ysgrifennu, ac yn gallu llunio testun bywiog, atyniadol, cryno a glân. Bydd yn meddu ar synnwyr da o beth sy’n effeithiol yn weledol. Bydd yn mwynhau’r elfen greadigol o greu deunydd deinamig a difyr ar gyfer y wasg.

Rydym yn ceisio unigolyn sydd â phrofiad o ffilmio a golygu fideos er mwyn creu cynnwys o ansawdd uchel i safon broffesiynol.

Hoffem i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda staff y wasg ac Aelodau Bwrdd y Wasg i’w hyfforddi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol a hyderus.

Tasg bwysig i’r ymgeisydd llwyddiannus fydd llunio cynllun marchnata ymarferol ac effeithiol, hwylus i’w ddefnyddio, ar ôl i gyfnod y prosiect penodol ddirwyn i ben.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus greu cronfa o adnoddau digidol, yn cynnwys templedau, i’r staff golygyddol eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys portreadau o awduron a’u gwaith, hysbysrwydd am gyfresi a deunydd i hyrwyddo’r ôl-restr.    Bydd angen i’r holl ddeunydd a roddir ar y we fod yn gywir, glân a dengar. 

Gofynion yr unigolyn

Rydym yn chwilio am berson trefnus a chydwybodol.   Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar ei liwt ei hun, gan ddilyn rhaglen waith a gytunwyd, trefnu ei amser a chyflawni holl nodau’r prosiect o fewn y rhaglen amser a gytunwyd. 

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda Chymraeg cywir a graenus.

Hoffem benodi unigolyn sy’n mwynhau darllen ac yn frwd dros hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Oriau Gwaith

14 awr yr wythnos neu oriau eraill fel y cytunir gyda’r Bwrdd. Swydd ran amser fydd hon, a bydd croeso i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaernarfon neu gartref, neu gyfuniad o’r ddau. Ond bydd angen bod yn y swyddfa am gyfnod ar y dechrau er mwyn cael cyfnod o ddod i adnabod y staff, a dysgu am y wasg, a’r maes gwaith. 

Bydd angen bod ar gael yn ystod oriau gwaith yn ystod hanner cyntaf yr wythnos yn benodol. 

Cefndir

Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogaidd, safonol i oedolion a llyfrau er lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth.

Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen. 

**Rhaglen waith **

Cyd-destun

Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i gryfhau agwedd farchnata’r busnes. Ar hyn o bryd y golygyddion sy’n gwneud yr holl waith marchnata a chyhoeddusrwydd. Ar adegau prysur, mae’r agwedd hon ar waith y wasg yn tueddu i fynd ar ôl ac rydym yn gobeithio y bydd y sawl a benodir yn cyflawni darn pwysig o waith a fydd yn gosod seiliau cadarn i’r dyfodol ym maes marchnata er mwyn gwella'r agwedd hon ar waith y wasg. Un o’r prif nodau yw gwella sgiliau marchnata’r golygyddion a’u hyder yn y maes, yn cynnwys darparu templedi hwylus a hyblyg ar gyfer y dyfodol.  

Creu cynllun marchnata i'r Wasg ei weithredu yn y dyfodol

Creu asedau digidol a thempledau digidol y gallwch eu defnyddio yn y dyfodol

Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr

Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol

Cynllun marchnata

Bydd y ddogfen hon yn nodi sut mae’r wasg yn mynd i fod yn hyrwyddo a marchnata ei llyfrau yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys:

·   rhoi sylw i hyrwyddo a marchnata cyn cyhoeddi, a chreu diddordeb cyn i lyfrau gyrraedd y siopau.

·   datblygu briff ar gyfer lansio cyfrolau newydd, ac yn benodol y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a zoom. 

·   datblygu rhestr e-bost ar gyfer anfon gwybodaeth a chadw mewn cyswllt rhwydd a rheolaidd â chyfeillion a chefnogwyr y Bwthyn, y wasg yn cynnwys papurau bro, adolygwyr a siopau llyfrau. 

·   llunio patrymau cymeradwy o ran amserlen farchnata llyfrau newydd gan ganolbwyntio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel y cyfnod ar ddechrau’r flwyddyn, y farchnad Nadolig a’r eisteddfodau cenedlaethol. 

·   darparu amrywiol dempledau marchnata parod hwylus, hawdd eu defnyddio a’u haddasu.

·   argymell system atgoffa i brocio’r staff i ddal ati i hyrwyddo teitlau sydd mewn print o bryd i’w gilydd (ee y rhaglen Llyfr y Dydd a gyflwynwyd gennym yn ystod y cyfnod covid) a stoc sy’n sefyll.

Creu asedau a thempledau digidol

Fel rhan o’r prosiect, bydd y sawl a benodir yn paratoi deunyddiau digidol at ddefnydd y staff. Bydd hyn yn cynnwys templedau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro, a fydd yn arbed amser ac yn golygu fod Gwasg y Bwthyn yn gallu rhoi llawer mwy o gynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd brand y Bwthyn yn cael ei hyrwyddo ac yn dod yn hawdd ei adnabod ac yn gyfarwydd fel rhan o’r gwaith yma.

Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo'r ôl-restr

Mae Gwasg y Bwthyn yn awyddus i wella cyfnod gwerthu eu llyfrau, ac i gynnal y diddordeb yn eu hôl-restr. Gyda hyn mewn golwg, bydd y swyddog prosiect yn creu system i hwyluso parhau i farchnata’r ôl-restr mewn dull systematig, hwylus ac effeithiol. Gwnaed hyn i raddau gyda’n cynllun Llyfr y Dydd yn ystod y ddau glo dros gyfnod covid, a fu’n arbrawf llwyddiannus. Mae angen adeiladu ar hyn a sefydlu fframwaith effeithiol er mwyn sicrhau fod llyfrau yn dal i werthu ar ôl y misoedd cyntaf, ac yn cael eu dwyn i sylw darpar brynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Creu cynllun a gweithdrefnau i hyrwyddo cyfresi ac awduron penodol

Mae gan Wasg y Bwthyn sawl awdur sy’n ysgrifennu cyfresi o nofelau, yn eu plith Dyfed Edwards, Sonia Edwards a Gwen Parrott sydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar. Bydd y swyddog yn creu deunydd addas i hyrwyddo cynnyrch yr awduron hyn, a theitlau unigol o fewn cyfresi, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd darllenwyr sydd wedi mwynhau teitlau cynharach mewn cyfres, a denu ffans newydd. Mae potensial gwerthiant sylweddol i gyfresi gan fod darllenwyr yn hoffi dilyn cyfres, ac yn teimlo’n hyderus o wybod pa arlwy a ddarperir gan awduron cyfarwydd. 

Mae’r un peth yn wir am waith awduron triw i’r Bwthyn sydd wedi cyhoeddi nifer dda o deitlau gyda ni, fel Harri Parri, lle gellid cynhyrchu ‘portreadau’ o’r awduron ar ffurf ffilm, y gellid eu defnyddio dro ar ôl tro. Felly bydd angen i’r swyddog prosiect fod â’r sgiliau i allu ffilmio a golygu fideos gan greu cynnwys o ansawdd uchel i’w roi ar ein gwefan, a’r cyfryngau cymdeithasol.

Cefndir

Cyhoeddwyr llyfrau yw Gwasg y Bwthyn, ac mae ein swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd. Rydym yn arbenigo mewn cyhoeddi ffuglen boblogiadd, safonol i oedolion a llyfrau lles. Rydym hefyd yn cyhoeddi ychydig o lyfrau plant ac ambell hunangofiant a chyfrol o farddoniaeth. 

Mae dau olygydd rhan-amser yn gweithio i’r wasg, ynghyd â swyddog cyllid, ac mae’r tîm yn atebol i Fwrdd Gwasg y Bwthyn sy’n cyfarfod bob chwarter. Rydym yn defnyddio gwasanaethau arbenigwyr allanol ym maes dylunio, golygu copi a marchnata yn ôl yr angen. 

Cyflog

💰 I'w drafod yn unol a phrofiad

Lleoliad

📍 Caernarfon, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau