Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Profiad Myfyrwyr

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26k - £31k 📍 Caerffili Ar gau

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn edrych am Swyddog Profiad Myfyrwyr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Swyddog Profiad Myfyrwyr i weithio gyda phrifysgolion a cholegau i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael y profiad academaidd gorau posibl mewn addysg uwch. Mae gwaith y tîm Profiad Myfyrwyr yn ymwneud â meysydd fel safonau academaidd, sicrhau ansawdd, dysgu ac addysgu.    Byddwch yn rhoi cymorth i bwyllgorau allweddol CCAUC sy’n ein helpu i ddatblygu polisi, gan gynnwys ysgrifennu papurau, gwneud gwaith prosiect a chymryd cofnodion. Byddwch hefyd yn cynnal cyswllt â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol, megis UCM Cymru, QAA, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn dirprwyo ar ran cydweithwyr mewn cyfarfodydd pan fo angen. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar fyfyrwyr ond ni fydd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol â myfyrwyr unigol.   Byddwch wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd (neu lefel gyfatebol). Bydd gennych sgiliau trefnu a gweinyddol ardderchog, ac yn ddelfrydol byddwch wedi ennill y sgiliau hynny mewn amgylchedd addysg uwch. Mae sgiliau cyfathrebu a rhifedd effeithiol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ynghyd â sgiliau datrys problemau, dadansoddi a TG. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg, gan gynnwys sgwrsio â’n partneriaid a drafftio gohebiaeth e-bost, yn hanfodol, er mwyn cynnal cyswllt effeithiol â phartneriaid, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddwch hefyd yn rhoi peth cymorth ad hoc i dîm cyfathrebu CCAUC.   Am fwy o wybodaeth ac am swydd-ddisgrifiad llawn, cliciwch ac Ymgeisio   Mae CCAUC yn gyflogwr achrededig Hyderus o ran Anabledd a Chyflog Byw. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ceisiadau’n arbennig gan ymgeiswyr LGBTQ+, ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, sydd yn cael eu tangynrychioli yn CCAUC ar hyn o bryd.   Byddwn yn cynnal digwyddiad recriwtio rhithiol Gofynnwch Unrhyw Beth sydd ar agor i bob ymgeisydd, gan groesawu pobl o gefndiroedd tangynrychioledig yn arbennig i gymryd rhan. Ceir manylion llawn y digwyddiad ar ein gwefan.    Rydym yn falch o dderbyn ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cyflog

💰 £26,038 - £30,908

Lleoliad

📍 Caerffili

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau