Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Marchnata Cymdeithasol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych am Gydlynydd Marchnata Cymdeithasol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Byddwch yn cyfrannu at weithredu a gwerthuso prosiectau marchnata cymdeithasol cenedlaethol integredig, gyda'r bwriad o hyrwyddo ymddygiadau iach ymhlith y cyhoedd yng Nghymru.

Mae'r rôl yn gyfle cyffrous i fod yn gyfrannwr gweithgar o fewn maes pwnc pwysig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant grwpiau poblogaeth ledled Cymru.

Byddwch yn weithiwr proffesiynol ym maes marchnata, hysbysebu neu gyfathrebu gyda phrofiad o weithredu ymgyrchoedd a chreu cynnwys atyniadol sydd â'r nod o hyrwyddo effaith gadarnhaol. Bydd gennych brofiad o weithio ar draws amrywiaeth o sianeli a phlatfformau digidol.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid mewnol ac allanol megis Tîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Byrddau Iechyd, y trydydd sector ac wrth gwrs, y cyhoedd.

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio o fewn strwythur staff pwrpasol ar gyfer dulliau gwaith systemau ac amlasiantaethol o ran gwella iechyd. Mae’r Is-adran yn rhoi pwyslais mawr ar ymarfer, ymchwil a gwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â chymhwyso gwyddor ymddygiad.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig am gyfnod penodol o 2 flynedd.

Cyflog

💰 £27,055 - £32,934

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau