Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd

Partneriaeth Ogwen

💰 £23k pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant Dyffryn Gwyrdd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai ac yn rheoli nifer o asedau ar Stryd Fawr Bethesda yn cynnwys Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, siopau ac unedau preswyl. Ers ein sefydlu, rydym wedi arwain ar ddatblygiad nifer o brosiectau amgylcheddol yn cynnwys datblygiad cynllun hydro Ynni Ogwen a datblygiad Canolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda.

Ariennir prosiect y Dyffryn Gwyrdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n dod a nifer o bartneriaid cymunedol a strategol ynghyd i daclo tlodi gwledig trwy weithredu amgylcheddol arloesol. Mae prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn canolbwyntio ar y themâu canlynol: 

·    Atal tlodi trafnidiaeth trwy gynllun cludiant cymunedol trydan a datblygu cynllun beiciau trydan cymunedol.

·    Atal Unigedd Gwledig a chynyddu cyfranogiad a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol.

·    Grymuso Cymunedol trwy ddod â’n cymuned at ei gilydd i gydweithredu er lles amgylcheddol a chymunedol. 

·    Atal tlodi tanwydd a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni trwy addysgu a hyrwyddo dulliau arbed ynni yn ein cymuned.

·    Atal tlodi bwyd trwy gynllun rhannu bwyd cymunedol Pantri Pesda.

Bydd prosiect y Dyffryn Gwyrdd yn cael ei redeg o ganolfan Dyffryn Gwyrdd ar Stryd Fawr Bethesda a bydd tîm o weithwyr yn cydweithio’n agos gyda Prif Swyddog a staff craidd eraill Partneriaeth Ogwen i wireddu’r cynllun. 

Rydym yn awr yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyra Llesiant fydd yn cydweithio â mudiadau amgylcheddol yr ardal i ddatlbygu ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol sy’n dod a buddion lles ac amgylcheddol ac yn atal tlodi yn ein cymuned. 

Oriau Gwaith

Cyflogir y Cydlynydd 37 o oriau’r wythnos.

Lleoliad Swydd

Canolfan Dyffryn Gwyrdd, 27 Stryd Fawr, Bethesda, LL57 3AE.

Prif Ddyletswyddau

Bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Llesiant yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd gwirfoddolia datblygu prosiectau sy’n gwella iechyd a lles ein cymuned mewn partneriaeth â thîm Dyffryn Gwyrdd a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd. Bydd y dyletswyddau yn cynnwys: 

1.  Cydweithio gyda staff y prosiect a Grwp Llywio’r Dyffryn Gwyrdd i adnabod cyfleon gwirfoddoli sy’n dod a buddion lles ac amgylchedd i’n cymuned a sefydlu rhaglen o weithgareddau prescripsiynau cymdeithasol mewn cydweithrediaid a mudiadau a sefydliadau eraill yn lleol. 

2.  Datblygu cysylltiadau a phartneriaethau newydd i greu rhaglen o gyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau amgylcheddol sy’n hybu llesiant ac sy’n taclo tlodi ac unigedd gwledig (yn cynnwys tlodi trafnidiaeth, tlodi bwyd, a thlodi tanwydd).

3.  Cydweithio gyda asiantaethau a grwpiau perthnasol yn lleol i adnabod unigolion a grwpiau fyddai’n elwa o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol a/neu gyngor ar faterion tlodi trafnidiaeth neu dlodi tanwydd. 

4.  Cydlynu gweithdrefnau ac asesiadau risg i ddiogelu gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â phrosiectau Dyffryn Gwyrdd. 

5.  Arwain ar ymgyrch recriwtio gyrrwyr gwirfoddol i’r car trydan cymunedol a chefnogi’r gwirfoddolwyr hynny. 

6.  Arwain ar ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi’r Bartneriaeth a mannau gwyrdd eraill yn ein cymuned.

7.  Datblygu cyfres o ddigwyddiadau llesiant traws genhedlaeth yn Nyffryn Ogwen.

8.  Delio yn gwrtais gyda ymholiadau gan aelodau o’r gymuned sy’n ymweld â Hwb y Dyffryn Gwyrddgan helpu i’w cyfeirio at ffynonellau o wybodaeth neu gynlluniau a allai fod o gymorth iddynt. 

9.  Sicrhau fod bas-data eang a diogel o holl fuddiolwyr y gwaith yn cael ei gadw a’i ddiweddaru yn reolaidd a chyson yn unol â gofynion GDPR.

10. Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol trwy gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau traddodiadol megis y papur bro a Radio Cymru. 

11. Mynychu cyfarfodydd tîm Dyffryn Gwyrdd a Partneriaeth Ogwen yn ôl y galw a chyfrannu’n adeiladol i waith y sefydliad. Mynychu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn lleol a rhanbarthol sy’n berthnasol i ofynion y swydd.Cydweithio â gweddill y tîm a staff Partneriaeth Ogwen i ddatblygu cyfleoedd newydd. 

12. CynrychioliPartneriaeth Ogwen a phrosiect Dyffryn Gwyrdd mewn cyfarfodydd neu bwyllgorau sydd yn berthnasol i waith prosiect Dyffryn Gwyrdd.

13. Cynorthwyo gyda unrhyw ofynion eraill yn ymwneud â gwaith prosiect Dyffryn Gwyrdd a Phartneriaeth Ogwen yn ôl y galw.

**Nodweddion Personol a Sgiliau Angenrheidiol **

Nodir y nodweddion personol gofynnol yn y Fanyleb Person ond byddwn yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a pherson sydd efo’r argyhoeddiad a’r awydd i weithredu er budd yr amgylchedd a’n cymuned.

**Cefnogaeth Weinyddol **

Darperir offer cyfrifiadurol addas i alluogi’r swyddog i weithredu gofynion y swydd yn llawn. Bydd Gweinyddwr Rhan Amser yn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y prosiect a bydd Rheolwr Gweinyddol Partneriaeth Ogwen yn cynorthwyo gyda goruchwylio gwariant y prosiect. 

**Atebolrwydd **

Bydd y Cydlynydd Gwirfoddoli yn atebol i Reolwr Prosiect Dyffryn Gwyrdd.

Cyflog

💰 £23,088 pro rata

Lleoliad

📍 Bethesda

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau