Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Adnoddau Dynol Grŵp

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol Grŵp

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae UAC wedi creu rôl newydd i lunio agenda pobl ar gyfer cwmnïau ei Grŵp corfforaethol a galluogi Grŵp UAC i gyflawni’r amcan strategol o fod yn gyflogwr o ddewis yng Nghymru.

Pwy ydym ni?

Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yw llais annibynnol ffermydd teuluol Cymru. Gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â'n gwefan www.fuw.org.uk a dewis Cymraeg neu Saesneg fel eich dewis iaith, neu drwy edrych amdanom ar Facebook. I gefnogi agenda'r Undeb mae yna Grŵp corfforaethol sy'n cynnwys UAC Cyf (y rhiant-gwmni), Gwasanaethau Yswiriant UAC (brocer yswiriant) ac Eiddo UAC Cyf Nid yw'r olaf yn cyflogi unrhyw staff, ond mae'r ddau gyntaf yn cyflogi 113 o staff ledled Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithgarwch brocer yswiriant y Grŵp drwy fynd i www.fuwinsurance.co.uk.

Disgrifiad Swydd

Er ein bod yn defnyddio Peninsula a Broker Network fel cymorth allanol i reolwyr llinell mewn cydymffurfiaeth cyflogaeth, rydym angen person egnïol, profiadol i:

·    Ddarparu cefnogaeth Adnoddau Dynol cyffredinol i'r Byrddau, rheolwyr a staff.

·    Ddatblygu strategaeth a pholisi Adnoddau Dynol, o recriwtio i gadw staff, gan gynnwys cyflog a gwobrwyo a chynllunio olyniaeth, i gefnogi strategaethau busnes y Grŵp.

·    Ddylunio, adolygu a diweddaru'r holl gytundebau cyflogaeth, polisïau, gweithdrefnau a dogfennau cysylltiedig, yn unol â deddfwriaeth gyfredol.

·    Gynorthwyo'r Byrddau i greu diwylliant a gwerthoedd endemig, cynhenid ​​a fydd yn meithrin ein staff ac fydd wrth fodd ein cwsmeriaid.

·    Ysgogi datblygiad ein pobl.

·    Ddod â chysondeb i'n timau gwasgaredig.

·    Arwain ar reoli newid gan gynnwys telerau ac ailstrwythuro.

·    Meddu ar agwedd wydn, hyblyg a chadarnhaol.

Byddwch yn unigolyn uchel ei gymhelliant, rhagweithiol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ar bob lefel. Bydd angen i'r Rheolwr Adnoddau Dynol cywir fod yn hyderus wrth lunio a datblygu syniadau a strategaethau ochr yn ochr â pharodrwydd i fod yn 'ymarferol' a darparu hyfforddiant a chefnogaeth Adnoddau Dynol.

Byddwch yn gyfrifol am yr holl brosesau Adnoddau Dynol, i sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio o ran cyfraith cyflogaeth, polisi cwmni a lleihau risgiau cyflogaeth i'r busnes.

Fel y Rheolwr Adnoddau Dynol byddwch yn gweithio'n agos gyda Byrddau’r Grŵp ac yn arwain y swyddogaeth Adnoddau Dynol ar gyfer UAC. Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad proffesiynol gweithwyr, felly bydd profiad mewn Dysgu a Datblygu o fudd. Bydd y rôl yn cwmpasu pob maes o Adnoddau Dynol a hefyd yn ymwneud â nifer o brosiectau.

Ar hyn o bryd mae’r Grŵp yn cefnogi cyfuniad o weithio gartref neu’r o’r swyddfa agosaf ond, o bryd i’w gilydd, efallai y bydd disgwyl i’r Rheolwr Adnoddau Dynol ymweld ag unrhyw un o’n 13 swyddfa ledled Cymru.

Sgiliau a phrofiad gofynnol

·    Profiad blaenorol fel Rheolwr Adnoddau Dynol neu Uwch Gynghorydd Adnoddau Dynol

·    Aelod o Sefydliad Siartredig Datblygiad Personél (CIPD) neu'n fodlon dod yn aelod

·    Y gallu i deithio i unrhyw un o'n 13 swyddfeydd yng Nghymru

·    Yn ddelfrydol yn siaradwr/wraig Cymraeg neu'n barod i ddysgu'r iaith

Cyflog

Mae'r swydd am 3 diwrnod yr wythnos, neu 21 awr yr wythnos, sef 0.6 FTE. Y cyflog yw £24,000 (£40,000 yn gyfwerth ag amser llawn). Mae’r Grŵp yn gweithredu cynllun pensiwn aberthu cyflog gyda chyfraniadau cyfatebol hyd at 4%.

Rhoddir 15 diwrnod o wyliau blynyddol i'r rôl ran-amser ynghyd â gwyliau banc os ydynt yn digwydd ar ddiwrnod gwaith. (Mae cyfwerth ag amser llawn yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc).

Mae Grŵp UAC yn rhoi gŵyl banc ychwanegol o Ddydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth) i’w holl staff a fyddai’n gweithio ar y diwrnod hwnnw fel arfer.

Llinell amser recriwtio

·    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw erbyn diwedd oriau gwaith ar 11 Tachwedd 2022

·    Cynhelir y cyfweliadau rhwng 21 a 23 o Dachwedd 2022.

·    Yn y swydd erbyn 1 Ionawr 2023 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Cyflog

💰 £40,000 pro rata

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau