Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mae ITV Cymru Wales yn edrych am Newyddiadurwr (Materion Cyfoes Cymraeg)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae ITV Cymru Wales yn chwilio am newyddiadurwr brwdfrydig sy’n llawn syniadau am straeon uchelgeisiol. 

Fel Newyddiadurwr o fewn adran Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales byddwch yn gweithio ar draws ein cynnwys i S4C gan ymchwilio ar gyfer cyfres Y Byd ar Bedwar yn ogystal â datblygu straeon i gynulleidfa Hansh.   Byddwch yn ymchwilio, yn cynllunio’r ffilmio ac yn creu cynnwys digidol fel rhan o’r tîm. Byddwch yn angerddol am gynrychioli cymunedau amrywiol Cymru ac yn cynnig syniadau creadigol sy’n herio’r drefn.

Bydd gennych farn olygyddol gadarn a phrofiad ymarferol o gydymffurfiaeth yn ogystal â gwybodaeth eang o faterion cyfoes Cymru a’r Byd. 

Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd yn chwilio am her ac eisiau profiad o greu cynnwys ffurf hir, gall y rôl yma fod yn gyfle gwych i chi.

Cytundeb 6 mis. 

Cyflog : Yn ôl profiad

Dyddiad cau: 28ain o Hydref

**Sgiliau Allweddol **- 

-   Sgiliau ymchwil trylwyr a’r gallu i ddatblygu rhwydwaith eang o gysylltiadau.

-   Ymwybyddiaeth wych o faterion cyfoes Cymru a’r Byd.

-   Dealltwriaeth dda o blatfformau a chynulleidfaoedd digidol a sut i’w cyrraedd yn ddigidol. 

-   Yn angerddol dros Gymru a phwy

Nodweddion y rôl

-   Datblygu a chynnig syniadau yn gyson

-   Y gallu i weithio dan bwysau ac ar draws brandiau gwahanol. 

-   Cyfathrebwr da gyda phrofiad o weithio mewn tim.

Mae ITV wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ei weithlu ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir. Rydym yn annog ceisiadau am y rôl hon gan ymgeiswyr ag anabledd ac fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y rôl a’ch bod wedi datgan bod gennych anabledd, byddwn yn gwarantu y bydd eich cais cyfan yn cael ei ystyried (h.y. byddwch yn cyrraedd ail gam ein proses). 

Cyflog

💰 Yn ôl profiad

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23,174 - £25,579 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34,000 - £40,000 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £26,823 - £34,906 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £25,945 - £31,137 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21,074- £23,111 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £24,657-£30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46,380 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30,095 - £34,373 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20,255 - £23,008 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19,000 - £22,000 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22,287 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau