Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi Arweinydd Darparu Gwasanaethau – y Gymraeg a fydd yn gweithio’n hybrid ac o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, am gyfran o’u hamser a gartref.

Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y Cyngor ac i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.

Yn y rôl hon:

Byddwch yn darparu cyrsiau a chyrsiau hyfforddiant a chyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg ac yn y Gymraeg, i staff mewnol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gan gefnogi dysgu a datblygu gweithwyr.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion a chydweithwyr Tîm Cyfieithu Cymraeg y Cyngor (Caerdydd Ddwyieithog) i sicrhau bod yr hyfforddiant yn adlewyrchu anghenion pob maes gwasanaeth ac mae'r cynnwys yn adlewyrchu'n gywir Safonau'r Gymraeg a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig.

Bydd cyfran o'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n rhithiol fodd bynnag bydd angen cyflwyno rhai cyrsiau ar y safle yn Neuadd y Ddinas. Byddwch yn cael y ddyfais/offer gofynnol i alluogi gweithio gartref. 

Nodiadau Ychwanegol – Oriau gwaith safonol 9:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener fodd bynnag bydd angen hyblygrwydd pan fo angen gweithio y tu allan i'r oriau hyn.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio fel hyfforddwr, creu a chyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i gwsmeriaid a dangos dealltwriaeth dda o'r egwyddorion y tu ôl i ddysgu a datblygu o ansawdd uchel sy'n gysylltiedig â’r Gymraeg, a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gefnogi sefydliad.

Mae’r swydd yn addas i’w rhannu swydd ac mae'n un dros dro am 12 mis. 

Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedredd.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais. 

I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy fynd i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn ymgeisio, ffoniwch John Latchem-Agnew ar 07966 228534.

Cyflog

💰 £30,095 - £34,373

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23k - £26k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34k - £40k 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £27k - £35k 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £26k - £31k 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21k - £23k 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £25k - £30k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46k 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30k - £34k 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20k - £23k 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19k - £22k 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19k - £20k 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22k 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £27k 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau