Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £21k - £22k 📍 Bae Colwyn Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol Cynorthwyol - Addysg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r ysgolion .

Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd: 

[Eleri Wyn Williams, Rheolwr AD Addysg 01492 575065 [email protected]

Ffion Morris, Prif Swyddog AD Addysg 01492 575064   [email protected] ]

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.    Yn dilyn dyrchafiad deilydd blaenorol y swydd, gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog AD Cynorthwyol, Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o’r tîm gyda chyfrifoldeb am ddarparu gwasanaeth AD a chyflog cyfrinachol, effeithlon ac effeithiol i ysgolion a’r gwasanaeth Addysg. 

Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys darparu gwasanaeth recriwtio i ysgolion, paratoi cytundebau cyflogaeth, trefnu archwiliadau cyn cyflogi a chynorthwyo ysgolion gyda phrosesau cyflogres.  

Byddwch yn berson sy’n mwynhau gweithio a cynorthwyo ystod eang o gydweithwyr ynghyd a’r gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd cymhleth mewn modd sensitif a chyfrinachol. Byddwch hefyd yn berson sy’n gweithio’n bwyllog ac yn gallu cyrraedd terfynau amser gan gynnal cywirdeb. 

“Mae Conwy yn datblygu fframwaith ar gyfer gweithio'n hyblyg ar ôl Covid, ble anogir gweithio gartref a defnyddio swyddfeydd ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cydweithio a gweithgareddau tîm. Bydd y ffordd newydd o weithio yn lleihau amser teithio i’r gwaith, lleihau allyriadau carbon, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chynyddu cyfleoedd i’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.”

Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Cysylltwch ag Eleri Wyn Williams neu Ffion Morris, ffôn 01492 575065/064 am drafodaeth anffurfiol   Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i’w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.

Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd.

Cyflog

💰 £20,852 - £22,129

Lleoliad

📍 Bae Colwyn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £42k - £46k pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Addysg Oedolion Cymru

💰 £25.84 yr awr 📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £20k 📍 Sir y Fflint Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £30k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £33k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Adra

💰 £38k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD2b 📍 Rhuthun Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £26k - £29k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Arnold Davies Vincent Evans

💰 £19k - £20k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Business in Focus

💰 £30k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau