Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn edrych am Swyddog Allgymorth ar gyfer prosiect Pendinas

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae prosiect Pendinas yn brosiect cymunedol 18 mis i ddysgu mwy am y fryngaer sy’n amlwg iawn yn yr ucheldir uwchben Penparcau. Bydd y prosiect yn ceisio ateb cwestiynau am hanes y fryngaer ar hyd yr oesoedd a thaflu goleuni ar y ffyrdd y bu i’n cyndeidiau ddefnyddio’r safle. Bydd canlyniadau rhaglen o gloddio ac arolwg geoffisegol yn darparu'r deunydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol amrywiol, gan gynnwys creu ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys ac adrodd straeon. Byddwn hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr bywyd gwyllt lleol i glirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar ben y bryn ar gyfer y planhigion prin, yr adar, yr infertebrata a’r trychfilod sydd â chartref ym Mhen Dinas. Bydd y prosiect yn cynnwys gŵyl penwythnos Pendinas ym mis Awst 2024 i arddangos yr holl weithgareddau hyn ac arddangosfa ar ddiwedd y prosiect.   Bydd y Swyddog Allgymorth yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno prosiect Pendinas, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fydd yn arwain y gwaith archaeolegol a bydd y gwaith allgymorth yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd panel ymgynghorol yn cael ei sefydlu o aelodau o gymunedau Penparcau ac Aberystwyth i’n helpu ni i weithio’n agos gydag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrff treftadaeth i rymuso trigolion lleol i ymgysylltu â, dysgu am, cloddio, dehongli, rheoli a gwarchod bryngaer Pendinas drwy arolwg archaeolegol a gwaith maes, gwella'r dreftadaeth naturiol, dysgu a gweithgareddau creadigol.   Mae rôl y Swyddog Allgymorth yn cynnwys gweithio’n hyblyg ac yn greadigol gyda phobl o bob oedran a chefndir a’u mentoriaid, trefnu a hwyluso gweithgareddau a digwyddiadau’r prosiect yn ogystal â chynorthwyo gyda thasgau gweinyddol, llywodraethu ac adrodd sy’n ofynnol ar gyfer prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.   Tasgau allweddol:

Mae Cynllun Gweithgarwch manwl wedi’i ysgrifennu ar gyfer prosiect Pendinas (wedi’i atodi), a bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y tasgau allweddol canlynol:

1.  Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda phartneriaid y prosiect, rhanddeiliaid a sefydliadau cymunedol i'w cynnwys hwy a'u haelodau yn y prosiect a sicrhau profiad cadarnhaol a chynhwysol i bawb sy'n cymryd rhan. Hwyluso cyfarfodydd y grŵp cynghori cymunedol a gwneud cofnodion yn y cyfarfodydd.

2.  Datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol wedi'u hysbrydoli gan Ben Dinas, yn seiliedig ar y celfyddydau creadigol, i annog y cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd gan arbenigwyr dan gontract, gan gynnwys ffotograffiaeth, teithiau tywys, prosiectau celf, barddoniaeth, astudio natur ac adrodd straeon.

3.  Gweithio gyda staff a myfyrwyr dwy ysgol uwchradd leol i greu gweithgareddau cwricwlwm amlddisgyblaethol yn seiliedig ar astudio Pendinas.

4.  Trefnu gweithgareddau clirio prysgwydd a rhedyn gan weithio gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr.

5.  Cefnogi’r rhaglen gloddio a gwaith maes flynyddol drwy recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr lleol a’u hyfforddi i adrodd hanes Pendinas a rhoi teithiau tywys i ymwelwyr.

6.  Trefnu penwythnos Gŵyl Pendinas ym mis Awst 2023 a’r arddangosfa gloi yn 2024.

7.  Cymryd rhan mewn cyfarfodydd rheoli prosiect i adrodd ar gynnydd a chyflawni a helpu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi.

8.  Casglu data sylfaen ar gyfer gwerthuso, gan gynnwys ffigurau ar gyfer nifer cyfranogwyr y prosiect, a chefnogaeth i ddarparu adroddiadau, data gwerthuso a gwybodaeth ar gyfer monitro'r prosiect.

9.  Paratoi datganiadau i'r wasg, blogiau a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a chasglu lluniau at ddibenion cyhoeddusrwydd a chyfryngau cymdeithasol, ar gyfer arddangosfeydd, adroddiadau ac i hyrwyddo Pendinas yn y dyfodol fel atyniad i ymwelwyr.

10. Cyfrannu at werthuso'r prosiect a'i waddol yn y tymor hwy.

Cyflog

💰 £25,860 - £29,430

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Rily Publications

💰 £30,000 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £21,300 - £24,630 📍 Casnewydd Ar gau

Coleg Penybont

💰 £19,117 - £20,050 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £25,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20,040 📍 O gartref📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20,040 📍 I'w drafod Ar gau

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

💰 £22,571 📍 Aberystwyth Ar gau

Gwasg Prifysgol Cymru

💰 Hyd at £33,500 yn dibynnu ar brofiad 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27,055 - £32,934 pro rata 📍 I'w drafod📍 O gartref Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Cyflog cychwynnol o £24,063 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

GwE

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £32,960 📍 Wrecsam Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £5,000 📍 Wrecsam Ar gau

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £52,302 - £60,624 📍 Aberaeron Ar gau

ColegauCymru

💰 £25,612 - £28,756 pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £30,014 - £32,843 📍 Caerffili Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31,411 - £35,333 📍 Abertawe Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31,411 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 £33,036 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau