Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Hoffech chi weithio o fewn tîm deinamig a chyfeillgar, gyda chyfle i weithio’n ystwyth? Ydych chi’n frwdfrydig dros wella gwasanaethau Cymraeg ym mwrdeistref sirol Caerffili? 

Mae'r Tîm Cydraddoldeb a’r Gymraeg yn chwilio am Gyfieithydd profiadol am gyfnod penodol o 12 mis, i gynorthwyo gwasanaeth cyfieithu'r Cyngor wrth gyflawni ei ddyletswyddau drwy ddarparu gwaith o safon.

Rhaid bod gan yr unigolion llwyddiannus sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhugl a gwych yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â dealltwriaeth deg o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r swydd â’r tîm.

Mae’r swydd wedi’i hysbysebu fel Gradd 6 - £22,571- £24,920 gydag atodiad y farchnad o £5,000 wedi’i dalu mewn 12 rhandaliad ochr yn ochr â’r cyflog.

Bydd y broses gyfweld yn cael ei chynnal drwy'r Gymraeg, gyda phrawf ysgrifenedig a phrawf prawf-ddarllen yn dilyn y cyfweliad.

Os ydych wedi darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person ac yn dymuno cael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Carys Hughes, Uwch Gyfieithydd drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch 01443 864377.

O dan y gyfraith, rhaid i ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael eich gofyn i ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni / pasbort / trwydded waith yn unol â'r Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Cyflog

💰 £22,571 - £24,920

Lleoliad

📍 Caerffili

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau