Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £25k - £27k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU – rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi swm anhygoel o £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da. Mae'r arian hwn yn ariannu prosiectau a gweithgareddau sy'n trawsnewid cymunedau, yn diogelu ein treftadaeth ac yn cyfoethogi bywydau drwy'r celfyddydau, chwaraeon a diwylliant. Rydym yn falch o fod yn un o 12 dosbarthwr sy'n gyfrifol am ddyfarnu'r cyllid hwn ledled y DU.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y llynedd llwyddwyd i ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd o gyllid sy’n trawsnewid bywyd i gymunedau'r DU, gan gefnogi miloedd o brosiectau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Roedd dros wyth o bob deg o'n grantiau o dan £10,000 ac yn mynd i grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad ledled y DU yn gwneud pethau gwych i gefnogi eu cymunedau, yn ystod cyfnod arbennig o anodd.

Rydym hefyd yn dosbarthu arian nad yw'n arian y Loteri Genedlaethol, gan weithio'n agos gyda'r Llywodraeth ar gyllid ar gyfer materion pwysig, megis mynd i'r afael ag unigrwydd, anghenion lluosog a chymhleth, iechyd meddwl a dosbarthu arian Cyfrifon Segur.

Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £3.4 biliwn, ac mae £2.7 biliwn ohono'n arian y Loteri Genedlaethol.

Rydym yn ariannu pethau sy'n bwysig – boed hynny'n helpu cymunedau i ymateb yn gadarnhaol i flaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, neu helpu'r DU i gyflawni ei huchelgeisiau cymdeithasol mawr. Mae ein grantiau'n amrywio o £500 hyd at raglenni gwerth miliynau o bunnoedd – gan gefnogi pobl a phrosiectau i wneud pethau eithriadol a dod â syniadau gwych i'w cymuned yn fyw.

Ynglŷn â’r Rôl

Ydych chi eisoes yn gweithio yn y maes Cyfathrebu ac yn ymddiddori mewn Materion Cyhoeddus yng Nghymru? Ydych chi’n hyderus wrth ymdrin â gwleidyddion a rhanddeiliaid uwch? Ydych chi’n gweithio’n fanwl wrth baratoi deunydd ysgrifenedig?

Ymunwch â’n tîm cyfeillgar o 8 aelod, y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddwyieithog a byddwch chi’n creu cynnwys ysgrifenedig a fideo ar gyfer y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chwarae rôl allweddol wrth gyflawni ein rhaglen ymgysylltu i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion a staff eu hetholaeth ledled Cymru. Byddwch chi’n gweithio gydag aelodau pwyllgor, cydweithwyr ledled y DU, a’r sefydliadau anhygoel rydym yn eu hariannu, i adrodd stori’r gwahaniaeth y mae ein hariannu’n ei wneud.

O ddydd i ddydd, byddwch chi’n trefnu gwaith eich hun i’w gyflawni o fewn terfynau amser. Un diwrnod, gallech fod yn trefnu ymweliad ar gyfer aelod pwyllgor. Y diwrnod nesaf, gallech fod yn paratoi briff ar gyfer staff mewn swyddfa etholaeth am y prosiectau a ariennir yn eu hardal. Gallech fod yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg yn cyhoeddi’r cyllid y gall pobl ymgeisio ar ei gyfer neu fynychu ffair ariannu wyneb yn wyneb i gyfarfod â darpar ymgeiswyr.

Os hoffech chi ddefnyddio eich profiad i hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae elusennau a sefydliadau yn eu gwneud gyda’n grantiau yng Nghymru i’n rhanddeiliaid, cysylltwch â ni.

Math o Gontract: Parhaol

Oriau: Llawn amser 37 awr yr wythnos

Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 5 Rhagfyr

Lleoliad: Byddwn ni’n cynnal y cyfweliad yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru, naill ai yng Nghaerdydd neu’r Drenewydd yn dibynnu ar leoliad y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr i’r rôl hon.

*Os hoffech chi gael trafodaeth cyn ymgeisio, anfonwch e-bost at [email protected]

Meini Prawf Hanfodol

- Profiad o weithio naill ai yn y maes Cysylltiadau Cyhoeddus, materion cyhoeddus neu rôl gyfathrebu.

- Profiad o ddatblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys gwleidyddion.

- Y gallu i weithio’n fanwl a chyrraedd terfynau amser tynn. Profiad o gynhyrchu copi cryno a chywir o fewn terfyn amser, a sgiliau digidol/cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cynhyrchu cynnwys.

- Byddwch chi’n gweithio’n dda ac yn hyderus gyda chydweithwyr uwch.

Meini Prawf Dymunol

- Mae dealltwriaeth a diddordeb mewn materion gwleidyddol Cymru’n ddymunol.

- Mae’r gallu i sgwrsio’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol ar gyfer y rôl. Nid yw sgiliau ysgrifennu Cymraeg da yn hanfodol a darperir hyfforddiant a chefnogaeth gan dîm Iaith Cymraeg y Gronfa.

- Profiad o drefnu digwyddiadau gan gynnwys creu briffiau.

- Byddai profiad o ffilmio, golygu ac is-deitlo fideos yn ddefnyddiol.

I Chi

Rydym yn ceisio datblygu ein staff a chynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad personol.

Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion hael gan gynnwys:

- Cynllun gwyliau blynyddol a phensiwn cwmni hael

- Gweithio hyblyg i gefnogi staff gyda'u cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan ystyried pethau fel cyfrifoldebau gofalu, addoli a phresenoldeb mewn gwyliau crefyddol

- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu â thâl uwch

- Benthyciadau tocynnau tymor a beicio i'r gwaith

- Absenoldeb gwirfoddoli â thâl  

Cyfle Cyfartal

Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.

Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.

Cyflog

💰 £25,000 - £27,000

Lleoliad

📍 Caerdydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau