Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfryngau, Cyfathrebu & Adnoddau Cymru

Cymorth Cristnogol

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Mae Cymorth Cristnogol yn edrych am Swyddog Cyfryngau, Cyfathrebu & Adnoddau Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma swydd gyffrous fel aelod o dîm Cymorth Cristnogol Cymru sy’n cydweithio’n agos â swyddogaeth yr adran gyfathrebu ar lefel y DU. Mae Swyddog y Cyfryngau, Cyfathrebu ac Adnoddau Cymru yn helpu i godi mwy o ymwybyddiaeth o waith Cymorth Cristnogol a sicrhau cefnogaeth iddo drwy ddefnyddio cyfryngau amrywiol (cyfryngau newyddion, y cyfryngau cymdeithasol, gwefan etc) a thrwy gynhyrchu adnoddau a deunydd cyfathrebu â chefnogwyr sy’n effeithiol ac o ansawdd uchel. Mae rhan o'r gwaith yn cynnwys cydlynu, datblygu a chyhoeddi adnoddau ar gyfer cefnogwyr Cymorth Cristnogol sy'n ystyried gofynion y Gymraeg a'r cyd-destun Cymreig, gan gynnwys cywiro, golygu a phrawf-ddarllen testun Cymraeg.    Amdanoch chi

Byddwch yn awyddus iawn i weithio ar y cyd ag eglwysi ac eraill er mwyn eu hysbrydoli i fynd ati i weithredu er mwyn goresgyn tlodi ym mhob cwr o’r byd. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o’r cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, eglwysig, y sector gwirfoddol a’r cyfryngau yng Nghymru a byddwch yn gyfforddus yn cyfathrebu'n greadigol ac yn briodol o ran iaith a naws gyda chynulleidfaoedd eglwysig gwahanol. Bydd gennych brofiad helaeth o waith yn y cyfryngau, cyfathrebu, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus neu brofiad cyfatebol, a gallu amlwg i fanteisio ar wahanol gyfryngau i gynyddu ymwybyddiaeth, diddordeb a chyfranogiad. Bydd gennych brofiad hefyd o gywiro a golygu a phrawf-ddarllen testun Cymraeg. 

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig da. 

Gofynnwn i geisiadau gael eu hysgrifennu yn Saesneg, oherwydd cyfansoddiad y panel sy’n llunio rhestr fer a’r panel cyfweld. 

Cyflog

💰 £36,255 - £39,644

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau