Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Natur - Ynys-hir

💰 £28,420 - £31,529 📍 Machynlleth Ar gau

Mae RSPB Cymru yn edrych am Swyddog Natur - Ynys-hir

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae hon yn swydd 12 mis, ac mae'n bosib y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os bydd cyllid ar gael. Mae'r swydd yn canolbwyntio ar yr adnoddau coed o gwmpas Bro Ddyfi a'r ardal ehangach, lle ceir rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru a rhywogaethau sydd lawn mor odidog. Bydd deiliad y swydd hon yn dechrau cyflwyno Glasbrint Tir Canol, a gynlluniwyd ar y cyd, gan ganolbwyntio ar goetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd:

• Dadansoddi beth mae pobl eisoes yn ei wybod am yr adnoddau coed yn yr ardal (ymchwil pen bwrdd).

• Llunio arolygon cynefinoedd ar y cyd â thirfeddianwyr ac ar eu cyfer. Bydd yr arolygon hyn yn ymwneud â'u hadnoddau a'u rhywogaethau coed, a byddant yn rhoi sylw i'w gwybodaeth a'u huchelgeisiau.

• Ymwneud â'r gweithgarwch coedwigaeth yn yr ardal i gefnogi rheoli coedwigaeth gynaliadwy.

Byddwch yn aelod o dîm Tir Canol. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â'ch gilydd, ac yn cydweithio'n rheolaidd mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid Tir Canol, yn enwedig staff RSPB Cymru gan gynnwys staff cadwraeth, gwarchodfeydd a staff rhaglen Celtic Rainforests LIFE; ynghyd â staff Coed Cadw i lunio asesiad o'r adnoddau coed a rhywogaethau cysylltiedig allweddol yn ardal afon Dyfi.

Gweithgareddau allweddol:

• Cynnal arolygon, gan gynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Bywyd Gwyllt Coetiroedd ac arolygon rhywogaethau dethol.

• Cynnal asesiadau o gynefinoedd (hyd at Gam 1) a chreu cynllun gweithredu ar y cyd â thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd posibl.

• Cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws Bro Ddyfi a'r ardal ehangach gan ddatblygu cysylltiadau yn lleol o fewn sefydliadau a chymunedau.

• Nodi cyfleoedd i greu ac i adfer coetiroedd.

Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr o fewn partneriaeth Tir Canol a'r tu allan iddi, a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu gweledigaeth Tir Canol, gweledigaeth a gynlluniwyd ar y cyd â phobl ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gartref mewn man addas yn ardal ddaearyddol y prosiect. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio o fewn i'r ardal hon.

Amdanoch chi

Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.

Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.

Mae angen i chi allu creu gweledigaeth a sicrhau cyfeiriad, egni a gallu. Rhaid ichi hefyd allu gweld y darlun ehangach. Mae'n rhaid i chi allu cynghori a chefnogi gwaith ar draws tirwedd eang. Mae eich sgiliau a'ch rhinweddau yn bwysicach i ni na'r rhestr o bwy rydych chi wedi gweithio iddyn nhw. Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall unrhyw un gamu i’r swydd hon. Dim o gwbl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn dipyn o her ac fe gewch eich gwthio!

Mae angen ichi fod yn dda iawn am drin pobl, a phrosiectau. Bydd angen gwybodaeth dda arnoch am fywyd gwyllt ac am reoli cynefinoedd yng Nghymru. Bydd angen ichi allu trin pobl yn ddeheuig a bydd angen ichi allu gweithio’n dda â phobl eraill. Bydd hefyd angen sgiliau dadansoddi cryf arnoch i brosesu gwybodaeth a dewis a dethol pethau pwysig er mwyn cyflawni Glasbrint Tir Canol. Mae bod yn angerddol am gysylltu pobl â bywyd gwyllt, a'u galluogi i weithredu er mwyn diogelu'r byd naturiol, yn bwysig ar gyfer y swydd hon.

Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Serch hynny, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, byddai deall enwau Cymraeg a gallu ynganu geiriau ac enwau'n gywir yn fantais benodol ichi, gan y byddwch yn gweithio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.

Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar, brwdfrydig, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio a chyd-gynhaliaeth. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac i adeiladu ar feysydd presennol.

Y camau nesaf

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 29ain am hanner dydd 2022. 

Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y rôl hon. 

Byddwn yn adolygu ceisiadau ddiwedd mis Tachwedd ac os byddwch ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad ym mis Rhagfyr. 

Coed Cadw sy'n cyllido'r swydd hon, a chaiff ei chynnal gan RSPB Cymru yn rhan o bartneriaeth Tir Canol.

Cyflog

💰 £28,420 - £31,529

Lleoliad

📍 Machynlleth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

💰 £51,380 - £61,440 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,209 - £33,813 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,344 pro rata 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £25,878 - £40,478 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £21,630 - £22,662 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,000 - £25,000 pro rata 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29,174 - £33,486 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £22,500 - £23,111 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £18,000 - £25,000 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £41,704 - £47,840 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

💰 £53,440 - £63,900 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau