Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cynllunio Strategol y Diwydiant

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Cynllunio Strategol y Diwydiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.

Trosolwg o’r Swydd

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd helpu gyda datblygu a gweithredu'r strategaeth ar gyfer diwydiant cig coch Cymru a sicrhau cydlyniad ac aliniad gyda pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant. 

Disgrifiad:

Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau Allweddol:

·        I gefnogi Llywodraeth Cymru a HCC i fwrw ymlaen â blaenoriaethau Gweledigaeth HCC i 2025.

·        Mewn cydweithrediad â'r uwch dîm Arweinyddiaeth a'r Weithrediaeth Cig Coch, cynorthwyo gyda datblygu Cynlluniau Corfforaethol a Gweithredol blynyddol HCC yn unol â Gweledigaeth HCC i 2025.

·        Cynorthwyo gyda datblygu fframwaith monitro a gwerthuso cadarn ar gyfer Gweledigaeth HCC i 2025 a Chynllun Gweithredol blynyddol HCC a chynorthwyo i ddarparu adroddiadau perthnasol ar gyfer yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Bwrdd.

·        Cynorthwyo gyda datblygu polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r sector i adlewyrchu amgylchiadau sydd yn newid. Darparu cefnogaeth i drefniadau llywodraethu Llywodraeth Cymru a gweithredu fel pwynt cyswllt ynghylch y prosiect Gwerthoedd Brandiau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

·        Coladu gwybodaeth berthnasol a rhoi mewnbwn i lywio penderfyniadau sy'n ymwneud ag Ardoll Cig Coch Cymru.

·        Cynorthwyo gyda chydlynu hysbysiadau Cymorth Gwladol yr UE ar gyfer HCC ynghyd â darparu gwybodaeth a chyngor parhaus ar faterion sy'n ymwneud â rheolau Cymorth Gwladol.

·        Darparu cefnogaeth ar gyfer datblygu a diogelu'r statws PGI ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy ddatblygiad parhaus fframwaith archwilio a thrwyddedu cadarn.

·        Cynorthwyo gyda'r gwaith o gydlynu a chyfrannu at ymatebion ymgynghori ar ran HCC.

·        Cynorthwyo i ddarparu papurau amserol a pherthnasol i Fwrdd HCC, talwyr ardoll a rhanddeiliaid.

·        Cynorthwyo i ddatblygu/rheoli prosiectau/gweithredoedd a gweithredu strategaethau newydd sy'n ymwneud â'r sector cig coch.

Cyflog

💰 £25,603 - £31,854

Lleoliad

📍 Aberystwyth, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £26,894 - £29,640 📍 Hyblyg📍 Caerdydd Ar gau

💰 £28,420 - £31,529 📍 Machynlleth Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £36,255 - £39,644 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Cyflog cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

💰 £52,303 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21,460 – £30,023 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn ddibynol ar sgiliau yr ymgeisydd 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £25,000 - £27,000 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

💰 £22,571 - £24,920 📍 Caerffili Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £42,155 - £47,423 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,860 - £29,430 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £21,300 - £24,630 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,226 - £30,095 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £25,419 - £27,514 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

💰 £20,852 - £22,129 📍 Bae Colwyn Ar gau

💰 £29,174 - £30,984 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau