Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Bwyd

Hybu Cig Cymru

💰 £35k - £44k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Bwyd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.

Trosolwg o’r Swydd

Bydd gan y swydd hon dri chyfrifoldeb allweddol: 

Darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth a throsglwyddo gwybodaeth i sector gwasanaethau bwyd y DU er mwyn sicrhau bod brandiau cig oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc yn cael eu hyrwyddo'n effeithiol yn y sector gan gynnwys y sectorau pen uchel a chost premiwm.

Cysylltu â'r timau mewnwelediad busnes ac ymgysylltu â brand i ddarparu data a mewnwelediadau marchnad hanfodol.

Adeiladu perthnasoedd gwaith cryf o fewn cadwyni cyflenwi masnachol y DU gan gynnwys darparwyr gwasanaethau bwyd, manwerthwyr, proseswyr a chynhyrchwyr a thrwy hynny manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i'r Brandiau Cymreig y sector gwasanaethau bwyd. 

Disgrifiad:

Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau Allweddol:

  Cymorth a Pherthnasau Gwasanaeth Bwyd Prif Gyfrif 

·    Ddarparu cefnogaeth ac ymyriadau penodol i'r sector gan nodi a mynd i'r afael â gofynion proseswyr i gynnal aliniad ag amcanion marchnata gwasanaeth bwyd HCC yn y DU.

·    Cynnal a hyrwyddo perthnasau cefnogol a dylanwadol gyda darparwyr gwasanaethau bwyd lluosog gan gymell bob cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth brand a manteisio ar Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn y sector gwasanaeth bwyd.

 ·    Cymell cydweithio busnes i fusnes rhwng y sector gwasanaeth bwyd a sefydliadau'r gadwyn gyflenwi i wella ansawdd cynnyrch a chysondeb a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt. 

·    Darparu cefnogaeth integredig, yn cynnwys mentrau prosiect, i sefydliadau'r gwasanaeth bwyd er mwyn ysgogi'r galw am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymreig 

·    Gweithio i ddatblygu perthnasau busnes i fusnes ymhellach a chyfleoedd yn sector lletygarwch y DU a'r sector brosesu.

·    Datblygu sianeli cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid sy'n gweithio ar yr agenda Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn sectorau gwasanaeth bwyd y DU ar ran cadwyn gyflenwi cig coch Cymru.    Monitro a Gwerthuso

·     Datblygu systemau cadarn i werthuso a monitro perfformiad ac effaith ehangach amrywiol weithgareddau / prosiectau.

·     Cydlynu'n rhagweithiol â thimau Polisi a Chynaliadwyedd a Marchnata Strategol y Dyfodol i rannu data gwerthuso prosiectau ac i gydweithio ar fentrau'r dyfodol.

·    Cyfrannu at brosesau monitro ac adrodd HCC.

Prosiectau Arbennig

Pan fydd angen, i ymgymryd â phrosiectau pwrpasol a allai fod angen dull amlddisgyblaethol. 

Cyflog

💰 £35,142 - £43,694

Lleoliad

📍 Aberystwyth, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau