Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr Strategol

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £53k - £64k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Strategol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Strategol i fod yn gyfrifol am lywio a chynllunio gwaith y Comisiynydd ar draws un o ddwy gyfarwyddiaeth yn y sefydliad a bod yn rhan o dîm rheoli uchelgeisiol.

Disgrifiad:

Prif ddyletswyddau

**AELOD O’R TÎM RHEOLI **

Cymryd rhan weithredol ym mhenderfyniadau’r tîm rheoli gan gynnwys:

·   cymeradwyo cyfeiriad strategol gwaith y Comisiynydd a gosod amcanion heriol

·   cynnig arweiniad strategol effeithiol fel gall y Comisiynydd fodloni ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg gan ganolbwyntio ar ddeilliannau mewn ffordd effeithiol a phriodol

·   hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian

·   goruchwylio a monitro perfformiad lefel uchaf, er mwyn sicrhau bod y Comisiynydd yn llwyr gyflawni ei amcanion

·   arddangos safonau uchel o ran llywodraethau corfforaethol ac uniondeb a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd o ran rheoli risg a rheolaeth fewnol

·   arddangos gwerthoedd y Comisiynydd ym mhob peth a wneir

ARWAIN CYFARWYDDIAETH

Arwain gwaith y gyfarwyddiaeth gan ddefnyddio dull hyblyg o weithio a modelu gwerthoedd y sefydliad. Yn benodol: 

·   gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr a rhan-ddeiliaid allanol er mwyn galluogi’r Comisiynydd i gyflawni ei gynlluniau strategol a busnes, gan sicrhau aliniad parhaus â’r nodau strategol

·   cadw atebolrwydd mewn perthynas â'r meysydd gwaith o dan ei gyfrifoldeb cynllunio busnes a rhaglennu gwaith gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod gweithgareddau'r Comisiynydd yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol

·   rhagweld rhwystrau posibl rhag cyflawni nodau strategol y Comisiynydd a gweithio i gael gwared arnynt a llyfnhau’r ffordd o’u cyflawni 

·   monitro'r dirwedd wleidyddol a busnes i sicrhau bod amcanion y Comisiynydd yn cael eu gwireddu fel y nodir yn strategaeth a chynlluniau gwaith y Comisiynydd

·   Rhoi cyngor a chefnogaeth i holl staff y gyfarwyddiaeth

**Dyletswyddau penodol **

DYLANWADU AR BOLISI

Bod yn gyfrifol am waith y tîm polisi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros: 

·   graffu a dylanwadu ar strategaethau allweddol, deddfau neu bolisïau sy’n effeithio ar y Gymraeg

·   gydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg 

·   ymchwilio ac adrodd ar sefyllfa’r Gymraeg a siaradwyr Cymraeg mewn meysydd polisi er mwyn gosod sail tystiolaeth ar gyfer safbwyntiau’r Comisiynydd

YMCHWIL AC ISADEILEDD

Bod yn gyfrifol am waith y tîm ac isadeiledd ac ymchwil sydd â chyfrifoldeb dros:

·   gynllunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg a fydd yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ac asesiad o’r goblygiadau

·   feithrin dealltwriaeth o waith comisiynwyr iaith ac asiantaethau eraill ledled y byd a rhoi llwyfan i arferion llwyddiannus o Gymru

·   ddarparu cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru gan roi amlygrwydd iddynt a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd

HYBU DARPARU CYFLEOEDD I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

Llywio gwaith Comisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwaith y tîm Hybu a Hwyluso. Hybu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sectorau anstatudol drwy:

·   hwyluso defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau drwy gynnal hyfforddiant, darparu canllawiau a rhannu arfer dda

·   sicrhau mwy o ymrwymiadau i ddefnyddio’r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau gan gymeradwyo cynlluniau datblygu a’r Cynnig Cymraeg

·   gydweithio gyda chyrff ariannu a rhwydweithiau er mwyn dylanwadu ar ragor o fusnesau ac elusennau i ddefnyddio’r Gymraeg

**CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS **

Bod yn gyfrifol dros waith y tîm cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y sefydliad sy’n benodol gyfrifol dros:

·   sicrhau fod y sefydliad yn ymgysylltu’n allanol mewn modd effeithiol a chyd-gysylltiedig. Arwain ar y berthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau, gan gynnwys cynghori’r Comisiynydd ar y materion hyn

·   llywio’r gwaith o gysylltiadau cyhoeddus y sefydliad gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau

·   cyfathrebu allanol effeithiol y sefydliad

·   presenoldeb gwefan y Comisiynydd a’r cyfryngau cymdeithasol 

·   gweithredu strategaeth gyfathrebu fewnol y sefydliad

CYLLID, ADNODDAU A THECHNOLEG

Bod yn gyfrifol am y tîm cyllid, adnoddau a thechnoleg sydd â chyfrifoldeb penodol dros sicrhau:

·   rheoli, ar ran y swyddog cyfrifyddu, gyllid ac adnoddau yn unol â Llawlyfr Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a llawlyfr Managing Public Money sy’n gosod yr egwyddorion a safonau uchel a ddisgwylir ar gyfer ymdrin ag adnoddau cyhoeddus

·   paratoi cyfrifon blynyddol, cyllidebau ac adroddiadau cyllid cywir ac amserol

·   adnoddau ffisegol y sefydliad yn cael eu cynnal a rheoli yn effeithiol

·   technoleg gwybodaeth briodol er mwyn hwyluso gwaith y sefydliad a sicrhau diogelwch seibr

Arbenigeddau

Mae gan y Cyfarwyddwr arbenigeddau a chyfrifoldebau neilltuol fel a ganlyn: 

· **  Cynllun Strategol **

Llunio papurau strategol, a’u cyflwyno er mwyn galluogi’r Comisiynydd i wneud penderfyniadau wrth i ni gynllunio fel sefydliad. Ysgrifennu strategaeth y sefydliad gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth, estyn allan, ymgynghori ac archwilio adborth yn fewnol ac yn allanol. Llywio’r broses o gyflawni, monitro a dangos ein bod yn cyflawni ein canlyniadau strategol er mwyn sicrhau bod ein hamcanion strategol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus dros oes y strategaeth a thu hwnt. Datblygu ein hymagwedd o ran adrodd ar ganlyniadau a'r buddion yr ydym wedi bwriadu yn ein hadroddiad blynyddol. Gwerthuso llwyddiant cyffredinol yn erbyn targedau corfforaethol a dangosyddion eraill.

·   Perchennog Risg Corfforaethol

Ysgwyddo cyfrifoldeb dros risgiau strategol y sefydliad fel y Rheolwr Risg Corfforaethol.

·   Perchennog Risg Gwybodaeth (SIRO)

Yr uwch swyddog sy’n gyfrifol am risg gwybodaeth y sefydliad. Cyfrifoldeb am sicrhau trefniadau diogelwch seibr a diogelwch gwybodaeth briodol.

Cymwyseddau

·  Meddwl yn strategol: Byddwch yn berson strategol sy'n gweld y darlun ehangach ac yn gallu arwain a chefnogi cydweithwyr i gyflawni amcanion strategol

·  Ysbrydoli a rheoli eraill: Yn arweinydd creadigol, bydd gennych brofiad o reoli a datblygu tîm. Gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn cydweithio'n effeithiol ag ystod eang o bobl ar draws meysydd amrywiol, i gyflawni ein strategaeth

· Cyflwyno syniadau a dwyn perswâd: Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a phapurau strategol ar lefel uchel i fyrddau a phwyllgorau gydag uwch arweinwyr

· Hunan-ysgogiad a sicrhau ansawdd: Yn ogystal â mwynhau gweithio fel rhan o dîm byddwch hefyd yn gallu gweithio ar eich pen eich hun a defnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser ac i’r ansawdd priodol   · Angerdd at hybu’r Gymraeg a monitro cynnydd: Yn benodol, rydym yn chwilio am berson a all arwain ar ein dull o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan nodi, monitro ac arddangos y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni

· Rheoli rhaglenni gwaith amrywiol: Profiad o arwain rhaglenni gwaith ar draws meysydd eang, allai gynnwys cyllideb, rheoli risg neu feysydd eraill

· Mesur y Gymraeg: Byddwch yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion Mesur y Gymraeg a chyfeiriad polisi iaith yng Nghymru

· Bywyd cyhoeddus: Bydd gennych ddealltwriaeth o fywyd cyhoeddus yng Nghymru

Cyflog

💰 £53,440 - £63,900

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau