Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Clerc y Dref a Swyddog Ariannol Cyfrifol

Cyngor Tref Rhuthun

💰 £33k - £38k pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

Mae Cyngor Tref Rhuthun yn edrych am Glerc y Dref a Swyddog Ariannol Cyfrifol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Clerc Tref a Swyddog Ariannol i fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol effeithiol Cyngor Tref Rhuthun a’i adnoddau, ac i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau ariannol a’i gyfrifoldebau archwilio statudol. 

Disgrifiad:

Disgwylir i Glerc y Dref weithio cyfanswm o 30 awr yr wythnos yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’r nos a chefnogi digwyddiadau ar benwythnosau achlysurol. Bydd y Clerc wedi’i leoli yn Yr Hen Lys, Sgwar San Pedr, Rhuthun sydd ar agor i’r cyhoedd. Bydd disgwyl i’r Clerc weithio’n hyblyg dros 5 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener mewn cyswllt â Dirprwy Glerc y Dref/Rheolwr yr Hen Lys. Byddai hyn fel bod deiliad y swydd yn gallu cyfrannu at redeg Cyngor y Dref a’i adeiladau yn effeithiol gydag oriau agor rhwng 10.00am a 3.00pm.

Mae'r gallu i withio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Mae pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr sy'n cynnwys ffurflen gais, disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan Gyngor Tref Rhuthun ar y ddolen hon: www.cyngortrefrhuthun.gov.uk 

Cysylltwch â Siân Clark, Clerc Cyngor Tref Rhuthun ar [email protected] ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm ar ddydd Iau 8 o Ragfyr 2022. Cynhelir cyfweliadau ddydd Gwener 16 o Ragfyr 2022.

Rhan-amser: 30 awr yr wythnos yn cynnwys mynychu cyfarfodydd gyda’r nos/ penwythnosau achlysurol 

Cyflog: LC2 (26-32) £32,909 i £38,296 y flwyddyn pro rata (£17.10 - £19.90 yr awr)

Mae’n hanfodol fod y person yn gyfathrebwr hyderus ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyddiad cau: Hanner dydd ddydd Iau 8 o Ragfyr 2022 Cyfweliadau: I’w cynnal ar ddydd Gwener 16 o Ragfyr 2022  I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r swydd hon a ffurflen gais e-bostiwch:  [email protected]

Os dymunwch drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â Siân Clark, Clerc Cyngor Tref Rhuthun ar rif ffôn 01824 703797 os gwelwch yn dda. 

**Gwybodaeth ychwanegol **

·   Gwybodaeth ddigonol dda o weinyddiaeth, strwythurau ac arferion Llywodraeth Leol

·   Wedi cwblhau neu barodrwydd i weithio tuag at Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (CiLCA) sy’n ofynnol i bob Clerc Tref

·   Profiad o wasanaethu a chynghori pwyllgorau, yn cynnwys cadw cofnodion a gweithio gyda’r aelodau

·   Sgiliau trefnu a chwrdd â therfynau amser rhagorol, gyda sylw astud i fanylion

·   Yn gymwys mewn rheolaeth ariannol, yn gyfarwydd ag arferion cyfrifeg a gallu i gynhyrchu adroddiadau ariannol, gan ddefnyddio pecyn cadw cyfrifon megis SAGE 

·   Cyfathrebwr hyderus ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg 

·   Yn hyddysg â Microsoft Office (Word ac Excel) 

·   Gwybodaeth am reoli risg a rheoli asedau

·   Gallu i wybod canlyniadau gwleidyddol/cyfreithiol camau gweithredu sy’n cael eu hargymell gan aelodau

·   Gwybodaeth am a phrofiad o ddefnydd technoleg ar gyfer cynnal cyfarfodydd neu ar gyfer dibenion eraill

·   Gallu i weithio’n effeithiol ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm

·   Agwedd ystwyth a hyblyg at unrhyw newidiadau sy’n digwydd

·   Parodrwydd i weithio gyda’r nos a phenwythnosau achlysurol pan fydd angen

·   Parodrwydd a’r gallu i deithio

Cyflog

💰 £32,909 - £38,296 pro rata

Lleoliad

📍 Rhuthun

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau