Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch-gyfieithydd

Llywodraeth Cymru

💰 £31k - £38k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Uwch-gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn gwasanaeth mawr, amlddisgyblaeth a chael profiad o feysydd arbenigol fel cyfieithu deddfwriaeth a safoni terminoleg. Bydd hefyd yn gyfle ardderchog i feithrin dealltwriaeth o waith y Llywodraeth.

Disgrifiad:

UWCH-GYFIEITHYDD

Graddfa gyflog: HEO (£31,210 i £38,160)

Cyfnod penodol hyd at 19 Medi 2023, â phosibilrwydd o drosi yn swydd barhaol ar ddiwedd y cyfnod

Lleoliad – Mae staff y Gwasanaeth Cyfieithu yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae desgiau gennym yn y swyddfeydd canlynol: Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno.

Dyddiad cau: 13 Rhagfyr 2022, 16:00

Profiad o weithio fel cyfieithydd neu olygydd?

Diddordeb brwd mewn materion cyfoes?

Chwilio am her newydd?

Croesewir ceisiadau i drosglwyddo dros dro ar fenthyciad neu secondiad os ydych yn gweithio mewn adran arall o’r llywodraeth neu sefydliad o’r tu allan i’r gwasanaeth sifil.

Bydd yr Uwch-gyfieithydd yn:

- Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg. Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol 

- Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol penodol. Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Safonau Iaith Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu

- Atebol am ei waith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, ac yn cymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon

- Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

Cyflog

💰 £31,210 - £38,160

Lleoliad

📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau