Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio o fewn ein Tîm Iaith Gymraeg ac i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Disgrifiad:

Mae deiliaid y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at wasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’n ofynnol i ddeiliaid y swydd:

1.   Ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer dogfennau sydd yn cael eu llunio gan Feysydd Gwasanaeth y Cyngor, a hynny ar gais y Cydlynydd Cyfieithu, gyda ffocws penodol i gefnogi prosesau democrataidd y Cyngor. 

2.   Darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i gyfarwyddiaethau.

3.   Meithrn cysylltiadau da a sicrhau dulliau cyfathrebu da gyda chleientiaid. 

4.   Blaenoriaethu a rheoli beichiau gwaith mewn ffordd effeithiol er mwyn diwallu terfynau amser y cytunwyd arnynt.

5.   Lle bo angen, cynnig arweiniad i Swyddogion ynghylch defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn effeithiol wrth lunio dogfennau, a hynny‘n unol â canllawiau Comisiynydd Iaith Gymraeg.

6.   Gweithio gyda Swyddogion perthnasol i gynnal Gwefan Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog yn unol â Safonau Iaith Gymraeg y Cyngor.

7.  Cynorthwyo’r Cydlynydd Cyfieithu gyda’r trefniadau gweinyddol sydd yn gysylltiedig â dogfennau pan fydd angen eu hanfon at gyfieithwyr allanol, pan fo hynny’n briodol.

8.   Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i drafod beichiau gwaith, blaenoriaethau ac unrhyw faterion gweithredol eraill.

9.   Darparu gwasanaethau prawf ddarllen ar gyfer cydweithwyr pan fydd angen. 

10. Cynorthwyo’r Swyddog Iaith Gymraeg a’r Cydlynydd Cyfieithu i ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y Cyngor, fel y bo angen

Cyflog

💰 £27,344 - £30,151

Lleoliad

📍 Hybrid, O gartref, Pont-y-pŵl

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau