Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth GMC Cymru

💰 Deniadol 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Bennaeth GMC Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer meddygon yn y DU ac mae'n rheoleiddio yng nghyd-destun gweithlu gofal iechyd wedi'i globaleiddio, lle mae gweithlu meddygol y DU yn gynyddol ryngwladol ac amrywiol yn ethnig Mae'r GMC wedi ymrwymo i ddiogelu cleifion ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig trwy sicrhau safonau uchel o addysg ac ymarfer meddygol. Mae'n gwneud hyn trwy weithio gyda meddygon, adrannau iechyd llywodraeth, cyflogwyr, addysgwyr meddygol a grwpiau cleifion.   Mae Pennaeth GMC Cymru yn rôl uwch hollbwysig ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol Gan adrodd i'n Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Swyddfeydd Cenedlaethol Cynorthwyol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol yn fewnol yn ogystal ag yn allanol i sicrhau darparu swyddogaethau statudol ac amcanion strategol GMC o fewn Cymru. Yn fewnol, bydd hyn yn golygu arwain ein swyddfa Cymru a sicrhau bod y gweithrediadau eang a ddarperir gan y tîm yn effeithlon ac effeithiol ym mhob maes, ynghyd â gweithio ar draws y GMC i addysgu, cynorthwyo a chydlynu ymdrechion i uchafu ein heffaith. Yn allanol, byddwch yn chwarae rhan arweiniol yn cynrychioli'r GMC mewn perthnasoedd i'r lefelau uchaf o'r sector iechyd a'r llywodraeth. Byddwch yn cyfrannu'n eang ar amrediad o feysydd polisi a darparu gwahanol. Byddwch yn darparu cymorth i ddarparwyr gofal iechyd ar draws y genedl ac yn cael y cyfle i ffurfio meddwl polisi yn unol a strategaeth GMC ehangach a'ch syniadau eich hun o ble gallwn gael effaith.

Bydd ein Pennaeth GMC Cymru yn dod â dealltwriaeth drwyadl o'r dirwedd, prosesau a blaenoriaethau gwleidyddol, gofal iechyd a pholisi yng Nghymru. Bydd ganddo/ganddi brofiad arweinyddiaeth wedi'i brofi mewn amgylchedd cymhleth sy'n cael ei graffu arno'n fawr, a hanes cryf o arwain a datblygu timau cynhwysol. Bydd yn arddangos y gallu i ymgysylltu ar lefel uwch gredadwy ac i adeiladu perthynas, gan ymgysylltu, dylanwadu a gweithio'n briodol gyda sefydliadau eraill, gan adeiladu consensws a gwneud penderfyniadau cadarn yn wyneb problemau cymhleth. Byddwch yn dod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn wleidyddol graff, â gallu adeiladu perthnasoedd a chyfathrebu neilltuol. Byddwch yn dod â'r mewnwelediad, gallu dadansoddol, gweledigaeth strategol a phenderfyniad i gyflawni pethau yn y rôl ddiddorol ac ymestynnol unigryw hon. Mae diwylliant mor hanfodol â gallu, a bydd ein pennaeth GMC Cymru yn gweithredu'n gwbl unol â'n hymddygiadau arweinyddiaeth, modelu rôl ac yn datblygu hyn yn ein tîm.

Mae'n sefydliad wedi'i adeiladu ar degwch ac ymddiriedaeth - ymddiriedaeth y cleifion a'r proffesiwn meddygol. Rydym yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac rydym yn croesawu persbectifau a syniadau newydd y gallech eu cyflwyno. Rydym wedi gosod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad wrth galon ein strategaeth gorfforaethol, fel rheoleiddiwr proffesiwn cynyddol amrywiol yn ogystal â fel sefydliad. Mae cynyddu amrywiaeth ein harweinyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol, ac anogir ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod, ac am sgwrs gyfrinachol galwch ein hymgynghorwyr cynghorol yn GatenbySanderson, Olivia Robinson neu Matt Malone ar 07964 826291.

Cyflog

💰 Deniadol

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £21k 📍 Sir Benfro Ar gau

💰 £32k - £39k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £53k - £64k 📍 Cyffordd Llandudno📍 Merthyr +2 Ar gau

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £35k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £20k - £22k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Amrywiol Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau