Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddydd AD

Boom Cymru

💰 Yn ôl profiad 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Mae Boom Cymru yn edrych am Weinyddydd AD

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda phencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg sy’n symud yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO. 

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddydd AD i gefnogi ein Rheolydd AD. Bydd y person yn y rôl yma yn gyfrifol am lunio cytundebau (yn y Gymraeg a'r Saesneg) i staff a gweithwyr llawrydd, yn helpu staff newydd i gynefino ac yn gweinyddu hyfforddiant. Bydd hefyd yn helpu i gynnal y gwiriadau a chynnal y cofnodion sydd eu hangen ar swyddfa AD brysur yn gywir yn ogystal ag ymgymryd â llawer o ddyletswyddau gweinyddol a chymorth AD cyffredinol eraill. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous, yn enwedig i rywun sy'n chwilio am yrfa mewn AD. Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu, gweinyddol a TG profedig gyda llygad am fanylyn. Rhaid iddynt allu cyfathrebu’n gryf, bod yn rhagweithiol a meddu ar allu profedig i gyflawni o fewn terfynau amser. 

Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr eglurhaol a disgwyliadau cyflog i [email protected] erbyn 13eg o Ionawr 2023.

Cytundeb – 12 mis

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Cyflog

💰 Dibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Bae Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau