Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.

O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.

Disgrifiad:

Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?

Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.

Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen. 

Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.

Manylion eraill

Lleoliad:        Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. 

Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.

Cyflog:           Yn unol â phrofiad

Cytundeb:        9 mis

Cyfnod prawf:     4 mis

Oriau Gwaith:     35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:         Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:         Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau