Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyllid a Gweinyddol

Cymdeithas Amaethyddol Môn

💰 £23k - £26k 📍 Sir Fôn Ar gau

Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn edrych am Swyddog Cyllid a Gweinyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn trefnu amryw o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn gan gynnwys y Sioe Sir, Sioe Aeaf, digwyddiadau codi arian, ynghyd â marchnata'r safle barhaol gyda'i holl gyfleusterau i ddarparwyr allanol.

Mae'r Gymdeithas yn chwilio am berson arbennig i weithio fel rhan annatod o'r tîm gweinyddol. Mae hon yn swydd sy'n adrodd i Swyddog Datblygu’r Gymdeithas, a gall fod yn llawn-amser neu ran-amser gan ddibynnu ar ddymuniad yr ymgeisydd. Bydd angen i’r person llwyddiannus fod yn dangos mentergarwch a’r gallu i aml-dasgio, gan bod yna amrywiaeth o ofynnion yn rhan o’r swydd.

Mae'r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol, a byddai profiad o weithio ym maes cyllid, marchnata a/neu wasanaeth cwsmer yn fanteisiol, ynghyd â bod yn llythrennog mewn TG. Byddai dealltwriaeth a diddordeb mewn materion amaethyddol a chefn gwlad hefyd yn fanteisiol.

Disgrifiad:

Bydd cyflog rhwng £23,149-£26,357 gan ddibynnu ar sgiliau a phrofiad.

Am ragor o wybodaeth ewch ar wefan y Gymdeithas www.angleseyshow.org.uk, neu E-bost i:  [email protected] neu ffoniwch 01407 720072.

Ceisiadau ysgrifenedig gan gynnwys CV cyfredol at sylw: Miss Cain Owen, Cymdeithas Amaethyddol Môn, “Ty Glyn Williams”, Maes Y Sioe, Gwalchmai, Caergybi, Ynys Môn LL65 4RW. 

Dyddiad cau: hanner dydd dydd Iau, Ionawr 5ed, 2023

 

Cyflog

💰 £23,149 - £26,357

Lleoliad

📍 Sir Fôn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau