Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cyfathrebu

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu i gynorthwyo’r Prif Weithredwr i greu strategaeth cyfathrebu uchelgeisiol ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn cymryd camau cadarnhaol gydag eraill i wireddu uchelgais S4C o wella’r brand gyda’r gynulleidfa, partneriaid a’n rhanddeiliaid.

Byddwch yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i ddatblygu strategaeth 5-mlynedd i esblygu ein proffil ân ddelwedd ymhellach gyda chynulleidfaoedd newydd sydd yn bodoli yn barod boed yng Nghymru neu yn rhyngwladol. Mi fydd gosod cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid wrth galon y cynllun yn hanfodol. Yn ogystal, i allu meithrin perthnasoedd gweithredol yn fewnol ac yn allanol a defnyddio sianeli a llwyfannau amrywiol mewn amgylchedd cyflym, cystadleuol. Yn brofiadol ym maes cyfathrebu, a materion cyhoeddus cewch gyfle i arwain tîm o fewn sefydliad sy'n trawsnewid a thirwedd sydd yn newid yn gyflym.

Wrth weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli byddwch yn gweithio yn strategol ar bob agwedd o waith S4C gan ddangos gwerthoedd ac ymddygiadau 'un tîm'. Byddwch yn cyfathrebu'n rhagweithiol blaenoriaethau S4C ar y cyd ag eraill, ar draws yr holl gyfryngau, gan ddangos effaith a dealltwriaeth glir o ystyriaethau gwleidyddol a gweithredol. 

Manylion Eraill

Lleoliad:  Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol. 

Cyflog: Yn unol â phrofiad 

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

**Ceisiadau ** Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 03 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Yn unol a phrofiad

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau