Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Cyfrifon

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Gynorthwyydd Cyfrifon

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â thîm yr adran gyfrifon yn Tinopolis am gyfnod o naw mis.

Cytundeb naw mis (ar gyfer cyfnod mamolaeth) 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn swyddfa gyllid brysur mewn busnes sy’n creu cynyrchiadau teledu byw. Bydd y rôl yma yn cynnwys prosesu anfonebion, rheoli credyd a pharatoi cysoniadau cyffredinol.

Bydd angen ir ymgeisydd llwyddiannus gael sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol. Mae sgiliau TG cryf gan gynnwys Microsoft Excel yn hanfodol. Byddai profiad yn y maes cyfrifon o fantais er and yw’n hanfodol gan bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Byddai'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol.

Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Manylion pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 37.5 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn. Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 16 eg Ionawr 2023 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. 

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau