Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Y Gegin

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Y Gegin

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Rheolwr Y Gegin i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. 

Mae hwn yn ail-hysbyseb, nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.

- Y RÔL -

Cyfrifoldeb Rheolwr Y Gegin fydd cadw'r amgylchedd yn lân a thaclus gyda o leiaf lefel 4 o Radd Hylendid Bwyd. Disgwylir i’r Rheolwr osod arferion a gweithdrefnau cadw ty o’r safon uchaf sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol gan gadw cofnodion a sicrhau bod canllawiau yn cael eu dilyn mewn modd amserol. Ar hyn o bryd gellir eistedd 46 yng ngofod y caffi ei hun, 20 ychwanegol ar ochr y dderbynfa a 18 tu fas a bydd gofyn i'r Rheolwr ystyried ffyrdd o ddatblygu’r wasanaeth ymhellach.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. 

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Rheolwr Y Gegin, bydd arnoch angen y canlynol:

-     HND neu Radd mewn maes perthnasol NEU brofiad cyfatebol.

-     Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 3.

-     Profiad blaenorol mewn rôl rheoli gwasanaeth cwsmeriaid .

-     Gwybodaeth ragorol am safonau bwyd a gwasanaeth y diwydiant.

-     Dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth bwyd gyfredol (HACCAP, alergenau, ac ati).

-     Profiad blaenorol o gynllunio a darparu bwydlenni a bwyd o safon (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad).

-     Profiad blaenorol o reoli cyllidebau (efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth mewn cyfweliad)

-     Profiad blaenorol o reoli adnoddau mewn modd cost effeithiol ac effeithlon

-     Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel.

-     Sgiliau TG rhagorol a defnydd o Microsoft office, gyda gwybodaeth dda o gyfryngau cymdeithasol.

-     Profiad blaenorol o oruchwylio tîm helaeth a'r gallu i gymryd perchnogaeth a rheolaeth.

-      Profiad o ymdrin â chwsmeriaid heriol ac ymdrin â chwynion cwsmeriaid yn effeithiol.

-     Profiad o gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a chynadleddau, i'r safonau uchaf.

-      Profiad o ddatblygu tîm i gwrdd ag anghenion dyrys y busnes sy'n aml-sgil ac yn llawn cymhelliant.

-     Profiad blaenorol o ddatblygu perthynas waith dda gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol.

-     Gallu dangos creadigrwydd a sylw i fanylion, sgiliau trefnu a rheoli amser.

-     Profiad blaenorol o gadw cofnodion, data a dogfennaeth yr adran.

-      Yn dangos lefelau uchel o hunan-gymhelliant.

-      Profiad o weithio gyda therfynau amser tynn ac yn gallu ymateb yn unol â hynny.

-     Profiad blaenorol o gysoni arian parod a til. Deiliad trwydded DPS (neu wedi’i chwblhau o fewn y 3 mis cyntaf o gyflogaeth).

-     Y gallu a’r parodrwydd i weithio’n hyblyg o ran dyletswyddau a phatrymau shifftiau er mwyn ymateb i anghenion busnes.

-     Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *

Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:

-     Profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau cynadledda a phreswyl o ansawdd uchel

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Rheolwr Y Gegin, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol. 

Dyddiad cau: 24 Ionawr 2022, 11:59pm

Cyflog

💰 £27,929 - £31,411

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau