Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd

Gweinyddiaeth Cyfiawnder

💰 £31k - £34k 📍 Hybrid📍 Hyblyg Ar gau

Mae Gweinyddiaeth Cyfiawnder yn edrych am Gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r cyfieithydd yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi GLlTEF a phartneriaid eraill o fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflawni’r goblygiadau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg unigol. Bydd angen i’r deiliad swydd fod â sgiliau ieithyddol o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gallu cyfieithu’n gywir a rhoi’r sylw priodol i ramadeg a chystrawen y ddwy iaith.   Disgrifiad Swydd   **Prif gyfrifoldebau: **   Cyfieithu pob math o waith e.e. agendâu, adroddiadau, cofnodion, llythyrau, e-byst i sicrhau bod GLlTEF ac aelodau o deulu ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydymffurfio â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.

Wrth i WLlTEM barhau i ddigideiddio nifer o’i wasanaethau, i gynorthwyo gyda chyfieithu’r cynnwys, treialu’r cynnwys gyda siaradwyr Cymraeg a gwirio bod y cynnwys Cymraeg yn ymddangos yn gywir ar y platfform Cymraeg.   Prawf ddarllen gwaith eich hun a gwaith cyfieithwyr eraill yn y tîm.

Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a maes o law mewn achosion llys neu dribiwnlys.

Helpu i gynnal cyfryngau cymdeithasol Cymraeg GLlTEF trwy drydar yn y Gymraeg neu gyfieithu is-deitlau.   Cyflwyno gwaith wedi’i gyfieithu mewn fformat dwyieithog os yw’n ofynnol. Bydd hyn yn golygu bod yn gyfarwydd â dylunio dwyieithog.   Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygiadau ym maes terminoleg Cymraeg a chymorth technegol i gyfieithwyr.   Cynorthwyo i ddiweddaru banc terminoleg Uned yr Iaith Gymraeg.   Cyfrannu i waith yr Uned Gymraeg yn ehangach a bod yn barod i helpu i wella ffyrdd o weithio trwy ddefnyddio technegau gwelliant parhaus.

Sgiliau a Chymwysterau   Gradd yn y Gymraeg, cymhwyster cydnabyddedig ym maes Cyfieithu h.y. Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu, neu brofiad yn gweithio fel cyfieithydd cymwys.   Gallu i weithio gyda rhaglenni Microsoft megis Word, Outlook a chof cyfieithu fel TRADOS.   Cyflog, Trefniadau Gweithio a Gwybodaeth Bellach   Cyflog cychwynnol

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar waelod yr ystod cyflog.   Math o Gontract

Tymor Penodol   Oriau gweithio hyblyg

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig system gweithio hyblyg mewn llawer o swyddfeydd. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn gweithio mewn modd ‘hybrid’ sy’n cynnwys cyfuniad o weithio mewn swyddfa ac o gartref h.y 3 diwrnod yr wythnos o gartref a 2 o’r swyddfa.   Buddion Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder amrediad o fuddion:   Gwyliau Blynyddol

Lwfans hael ar gyfer gwyliau â thâl, yn dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn ac yn cynyddu i 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd. Ceir hefyd gynllun sy’n caniatáu i staff brynu neu werthu hyd at dri diwrnod o wyliau y flwyddyn. Amser ychwanegol i ffwrdd, gyda thâl, ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 2.5 diwrnod braint. Cyfrifir gwyliau ar gyfer swyddi rhan amser a swyddi a rennir ar sail pro-rata.   Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o gynlluniau pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn gorau i chi.   Hyfforddiant

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymroddedig i ddatblygu staff ac mae'n cynnig amrediad o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Cefnogaeth

·   Amrediad o bolisïau ystyriol o deuluoedd, megis cyfleoedd i weithio llai o oriau neu rannu swydd.

·   Hawl i fuddion hyblyg, megis trefniadau aberthu cyflog am dalebau gofal plant, a buddion gwirfoddol megis talebau siopa a disgownt ar amrediad o nwyddau a gwasanaethau.

·   Absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu a mamolaeth gyda thâl.

·   Prawf llygaid am ddim i weithwyr sy'n defnyddio sgrîn cyfrifiadur.   Rhwydweithiau

Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr, sydd wedi’u sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth ac er mwyn gallu mynegi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol yn uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, ceir rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr o darddiad ethnig lleiafrifol, gweithwyr sydd ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n ferched, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.   Cod y Gwasanaeth Sifil

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1996, yn gosod gwerthoedd craidd y Gwasanaeth Sifil a safon yr ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cynnal y gwerthoedd hyn.   ·   Uniondeb – gosod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol.

·   Gonestrwydd – bod yn onest ac yn ddidwyll.

·   Gwrthrychedd - seilio eich cyngor a’ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trwyadl o’r dystiolaeth.

·   Didueddrwydd – gweithredu yn unol â rhinweddau’r achos yn unig a gwasanaethu llywodraethau o wahanol bleidiau gwleidyddol yn gyfartal.   I weld Cod y Gwasanaeth Sifil, ewch i: http://www.civilservice.gov.uk/about/values    Pwy sy'n gymwys

Rhaid recriwtio staff a benodir yn barhaol drwy gystadleuaeth deg ac agored.

Cyflog

💰 £31,265 - £34,446

Lleoliad

📍 Hybrid, Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau