Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £26k 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 – Ysgol Dyffryn Aeron

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gynorthwyo gyda disgyblion y Dysgu Sylfaen.

Mae’n hanfodol i feddu ar gymwysterau a/neu brofiad addas yn ymwneud â datblygiad plant.

Byddai profiad blaenorol o weithio yn y Dysgu Sylfaen yn fanteisiol iawn ynghyd â dealltwriaeth cyffredinol o ofynion y cwricwlwm.

Byddai dealltwriaeth o raglenni hyfforddiant perthnasol eraill megis Ymyrraeth Cynnal Sylw, Grwp Iaith, Cyfri Ceredigion, Tric a chlic, a ‘Y Daith Ddarllen’ yn ddymunol iawn.

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.

Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos gyda’r disgyblion, sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da, a sydd hefyd yn medru gweithio’n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol.

Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.

Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01545 908 908 neu ar [email protected]

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £26,016 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau