Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Canolfan Deulu y Bala

Mudiad Meithrin

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd
Cais

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Deulu y Bala

Lleoliad - Canolfan Deulu y Bala, Hen Ysgol Bueno Sant, Heol y Castell, Bala, LL23 7UU.

Mae Canolfan Deulu y Bala yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.

Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Fydd disgwyl ir cynorthwyydd weithio gyda staff i:

trefnu amgylchedd y Cylch.

trefnu amrywiaith o weithgareddau y tu fewn a thu allan.

sicrhau bod croeso, sylw a gofal i bob plentyn.

sicrhau bod yr offer yn cael ei gadw’n daclus ar ôl pob sesiwn a bod yr ystafell yn lân.

cadw cofnod o ddatblygiad y plant gan gynnwys esiamplau o’u gwaith.

Am fanylion llawn cysylltwch â Lisa Jones, [email protected], 01678 528571

Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Gwynedd

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter Iaith Bro Morgannwg

Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £41k - £46k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar gau

Ysgol Gynradd Groeswen

Ar gau