Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol

Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ

💰 £13.11 yr awr 📍 Blaenau Gwent
Cais

Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol

Ydy’r rôl hon yn addas i chi?

Bydd y rôl hon yn cynnwys:

  • Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
  • Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.

Rydym yn chwilio am rywun:

  • Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
  • Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
  • Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
  • Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
  • Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
  • Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
  • Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.

Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain

Rhif Ffôn: 07494491884

E-bost: [email protected]

Gwneud Cais:

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma:

[email protected]

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Cyflog

💰 £25,564.50 pro rata (£13.11 yr awr)

Lleoliad

📍 Blaenau Gwent

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau