Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Rheolwr Prosiectau Priffyrdd

Rydym yn edrych i recriwtio Rheolwr Prosiectau Priffyrdd i ymuno â’n gwasanaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol.

Ynglŷn â’r rôl

O dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Gwasanaeth – Cynnal a Chadw’r Rhwydwaith ac Asedau, ac ar y cyd â’r Rheolwyr Gweithredol, bydd gofyn cynllunio, cydlynu a rheoli’r gwaith o gyflawni Prosiectau Priffyrdd, gan gynnwys:

  • Darparu Gwasanaeth y Gaeaf.
  • Ymatebion brys/y tu allan i oriau.
  • Rhaglen flynyddol trin wyneb y ffordd.
  • Cynnal systemau rheoli ansawdd Priffyrdd ac Asedau yn unol â safonau ISO (ISO 45001, 15001 a 9001).
  • Ynglŷn yr ymgeisydd
  • Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod â:
  • HND/HNC mewn Peirianneg Sifil a/neu dystiolaeth amlwg o brofiad llwyddiannus perthnasol o 5 mlynedd o leiaf.
  • Trwydded yrru lawn y DU.
  • Tystysgrif Archwilydd Mewnol (gellir ei hennill ar ôl dechrau yn y swydd).
  • Profiad ymarferol o reoli cyllidebau, caffael ac adnoddau dynol.
  • Profiad ymarferol o reoli timau canolig eu maint a gweithio’n effeithiol gyda nhw.
  • Gwybodaeth a phrofiad o agweddau gwaith y meysydd gwasanaeth a nodir yn y Disgrifiad Swydd.

Rydym yn chwilio am unigolion â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg gan y rhoddir cefnogaeth lwyr yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl iddynt gael eu penodi.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.

Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

Manylion Ychwanegol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Noder bod y swydd hon yn destun ailstrwythuro gwasanaeth. Bydd y math o gontract yn aros yr un fath ond gall rhai dyletswyddau a llinellau adrodd fod yn destun rhywfaint o newid.

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon ffoniwch Caroline Wride ar 01970 633810 neu ebost [email protected]

Cyflog

💰 £44,253 - £46,579 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £51k - £62k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £40k - £42k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau