Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Cludiant

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, brwdfrydig a chymhellol i ymuno â’r Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol (CPTU) fel Swyddog Trafnidiaeth.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli a darparu gwasanaethau cludiant teithwyr y Cyngor o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod y gwasanaethau’n gweithredu’n effeithlon, yn ddiogel ac yn unol â pholisïau, contractau a manylebau gwasanaeth y Cyngor.

Mae’r gwasanaethau a reolir gan yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Bysiau Lleol
  • Cludiant Dysgwyr
  • Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cludiant Cymunedol

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n agos gyda gweithredwyr cludiant, ysgolion, colegau, rhieni a gwarcheidwaid, adrannau’r Cyngor a rhanddeiliaid allanol eraill er mwyn datrys materion gweithredol a sicrhau bod gwasanaethau cludiant teithwyr yn cael eu darparu’n effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn atebol i Reolwr yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol a bydd hefyd yn darparu goruchwyliaeth a chymorth i aelodau o dîm yr CPTU.

Am y rôl

Bod yn gyfrifol am fonitro gwasanaethau cludiant teithwyr dan gontract er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pholisïau, contractau a manylebau gwasanaeth y Cyngor.

Rheoli materion gweithredol o ddydd i ddydd sy’n codi ar draws gwasanaethau cludiant teithwyr, gan weithio’n agos gyda chontractwyr, ysgolion, colegau, rhieni, defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr y Cyngor.

Cynnal gwaith monitro contractwyr, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion ac arolygon ar ochr y ffordd, a mynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â pherfformiad neu gydymffurfiaeth pan fo angen.

Cefnogi’r gwaith o reoli cyllideb cludiant teithwyr y Cyngor a chyfrannu at sicrhau bod gwasanaethau’n darparu gwerth effeithiol am arian.

Cefnogi ymarferion caffael cludiant teithwyr, gan gynnwys paratoi ac asesu dogfennau tendro a rheoli contractau wedi hynny.

Rheoli a chydlynu Asesiadau Risg Cludiant Cartref i’r Ysgol a sicrhau bod trefniadau diogelu a diogelwch priodol ar waith.

Cydlynu cludiant ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phlant sy’n Derbyn Gofal, gan ystyried anghenion unigol a gofynion diogelu.

Ymateb i ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid, gan ddarparu cyngor priodol a cheisio datrysiadau effeithiol i faterion gweithredol.

Gweithio’n gydweithredol â’r Gwasanaethau Dysgu, Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion, contractwyr, yr Heddlu a sefydliadau partner eraill wrth ymchwilio i ddigwyddiadau neu ddatrys materion cymhleth a sensitif.

Darparu cymorth mewn perthynas â theithio rhatach, gwybodaeth am amserlenni bysiau a gwasanaethau cymorth eraill sy’n ymwneud â chludiant teithwyr.

Trefnu gofynion cludiant dysgwyr tymor byr ac mewn argyfwng, lle bo angen.

Cyfrannu at adroddiadau, gwybodaeth a chyngor a ddarperir i uwch reolwyr ac Aelodau Etholedig ar faterion cludiant teithwyr.

Cynrychioli’r CPTU mewn cyfarfodydd a grwpiau partneriaeth, fel bo’n ofynnol.

Dirprwyo dros Reolwr yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol pan fo angen.

Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio’n hyblyg ac ymateb i flaenoriaethau sy’n newid, gan gynnwys gwaith achlysurol y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cynnal arolygon ar ochr y ffordd, monitro contractwyr a mynd i’r afael â phryderon gweithredol neu ddiogelwch.

Gofynion hanfodol

NVQ Lefel 4 mewn Trafnidiaeth neu ddisgyblaeth briodol, neu o leiaf bedair blynedd o brofiad perthnasol ym maes trafnidiaeth.

Profiad o weithrediadau cludiant teithwyr a dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar ddarpariaeth effeithiol gwasanaethau cludiant teithwyr.

Profiad o weithio gyda chontractwyr a monitro darpariaeth gwasanaethau a chydymffurfiaeth gytundebol.

Profiad o weithio gydag aelodau o’r cyhoedd ac ystod eang o randdeiliaid.

Dealltwriaeth dda o weithdrefnau Llywodraeth Leol a’r gallu i weithio yn unol â pholisïau a deddfwriaeth berthnasol.

Profiad o reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a gweithio’n effeithiol i derfynau amser.

Sgiliau rheoli ariannol a rheoli adnoddau da.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i ymdrin yn dactegol ac yn broffesiynol â materion sensitif a dadleuol.

Y gallu i weithio’n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, tra hefyd yn cyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm.

Y gallu i arwain, cymell a chefnogi cydweithwyr.

Llythrennedd TGCh uchel, gan gynnwys profiad o Microsoft Office a systemau perthnasol.

Trwydded Yrru Lawn â llaw.

Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu barodrwydd i gyrraedd y safon Gymraeg ofynnol o fewn dwy flynedd i gael eich penodi.

Sgiliau/cymwysterau dymunol

Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion diogelu wrth weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Profiad blaenorol o weithio mewn Llywodraeth Leol neu yn y diwydiant trafnidiaeth.

Cymhwyster NVQ mewn Cludiant Teithwyr ar y Ffordd.

Profiad o ddefnyddio Omnibus/Omnitimes neu feddalwedd debyg ar gyfer amserlenni bysiau.

Ein cynnig i chi

Mae’r cyfraniad y mae ein gweithwyr yn ei wneud i iechyd, diogelwch a lles ein cymunedau yn amhrisiadwy. Felly, rydym am sicrhau bod gweithio i Geredigion mor werth chweil â phosibl i chi.

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Mentrau iechyd a lles, gan gynnwys cymorth ffordd o fyw a chwnsela am ddim
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth gwell
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi datblygiad gyrfa
  • Cynlluniau aberthu cyflog, gan gynnwys y Cynllun Beicio i’r Gwaith

I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion i weithwyr, cliciwch [yma].

Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr trafnidiaeth brwdfrydig ac ymroddedig ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig, a chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr diogel, effeithiol ac ymatebol ledled Ceredigion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Dafydd Rennie ar 01545 570 881.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £36,581 - £38,510 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £51k - £62k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £40k - £42k 📍 Ceredigion
Cais

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau