Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol

Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant

💰 £26k 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol – Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant

Sylwch fod y cyflog a ddangosir yn un pro rata. Y gyfradd fesul awr ar gyfer y rôl hon yw £13.27 yr awr.

Rydym am recriwtio Hebryngwr Croesfannau Ysgol i ymuno â’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

Pwrpas y swydd yw sicrhau diogelwch plant wrth iddyn nhw groesi’r ffordd mewn man dynodedig ar amserau penodedig, heb amharu ar les defnyddwyr eraill y ffordd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • cyrraedd lleoliad eich croesfan ar amser, yn gwisgo’r wisg gywir a chyda’r arwydd stop
  • atal cerddwyr rhag croesi’r ffordd nes ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny, unwaith y byddwch wedi ;sicrhau bod yr holl draffig wedi stopio symud i’r ddau gyfeiriad
  • gweithredu polisi’r Cyngor mewn perthynas â’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gan gynnwys y gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch
  • cadw rheolaeth ar y plant sy’n aros am gyfarwyddyd gan yr Hebryngwr Croesfannau Ysgol i groesi’r briffordd

Rydym am recriwtio unigolyn sy’n ddibynadwy a hyderus, un sy’n dda am gadw amser a chyfathrebu, all addasu’n gyflym ac mewn modd priodol i sefyllfaoedd sy’n newid, sy’n hyderus yn gweithio ar y briffordd.

Rhywun sydd â’r gallu i oruchwylio plant ac sy’n ofalgar ohonynt, y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rhywun all gyfathrebu mewn ffordd glir a serchog bob amser.

Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr ichi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.

Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Kayleigh Tonkins – Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd – 01545 572053.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £25,614 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau