Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Rheoli Adeiladu

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £39k - £41k 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Rheoli Adeiladu

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn brwdfrydig sydd â chymhelliant uchel i fod yn rhan o’r tîm Rheoli Adeiladu ar sail barhaol, llawn amser.

Fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach, sy’n ymdrin â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig arall, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ledled y sir.

O ddydd i ddydd, byddwch yn:

  • Asesu ceisiadau Rheoliadau Adeiladu a’r wybodaeth ategol.
  • Cynnal archwiliadau safle i asesu cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig.
  • Darparu cyngor technegol proffesiynol, diduedd ac ymarferol i ymgeiswyr, asiantau, contractwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
  • Cefnogi ymateb statudol y Cyngor i adeiladau peryglus.
  • Cyfrannu at Wasanaeth Rheoli Adeiladu effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel.
  • Cyfrannu at weithredu newidiadau deddfwriaethol sy’n deillio o Reoliadau Adeiladu (Cymru) 2024 a 2025.
  • Darparu cymorth i’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach pan fo angen.

Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn sydd:

 gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu gyfuniad cyfatebol o wybodaeth a phrofiad ym maes Rheoli Adeiladu.

Yn Arolygydd Adeiladu Cofrestredig ar Ddosbarth 2(a–f) neu uwch.

Yn gallu cyfathrebu’n ddiduedd, yn broffesiynol ac yn effeithiol ag ystod eang o bobl ar wahanol lefelau.

Yn gallu gweithio gyda goruchwyliaeth gyfyngedig a rheoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a therfynau amser tynn.

 ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus o ansawdd uchel ac i sicrhau boddhad cwsmeriaid.

Mae’r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwer y bydd ymgeisydd llwyddiannus nad oes ganddo’r sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i’w benodi.

I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan gyrfaoedd y Cyngor, gan gynnwys manylion am yr hyn y gallwn ei gynnig a’r ffordd o fyw y gallwch ei disgwyl. Mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi, gyda diwylliant bywiog, ysgolion rhagorol, arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Jeremy Holmes, Prif Swyddog Rheoli Adeiladu / Geraint Williams, Rheolwr Gwasanaeth, ar 01545 572482.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £39,152 - £40,777 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau