Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

💰 £33 - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i siaradwr Cymraeg rhugl ymuno â Thîm Addysg yr Ysgol Deintyddiaeth. Bydd yn cefnogi’r Ysgol i weithredu a gwerthuso rhaglen waith sydd â’r nod o gynyddu ceisiadau i’r rhaglenni israddedig gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, a chynyddu nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni eu hyfforddiant meddygol israddedig mewn sefydliad cyfrwng Cymraeg.

Wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg, bydd y swydd cyfnod penodol o dair blynedd hon ar gael ar sail ran-amser (21 awr yr wythnos). Mae’r Ysgol yn hyblyg o ran y patrwm gwaith.

Rydym yn chwilio am gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth fanwl a chymhleth yn ddwyieithog mewn modd effeithiol, proffesiynol a deniadol i ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda chofnod diamheuol o gyflwyno portffolio o weithgareddau marchnata a chyfathrebu, a gallu gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant a datblygiad.

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol ynghylch y rôl at Reolwr yr Ysgol, Riah-Jayne Jones [email protected]

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan greu awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o sawl cefndir gwahanol a hoffai greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei dyletswydd gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Cyflog

💰 £28,762 - £33,31

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau