Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 £60k - £70k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn edrych am Gyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu i ymuno â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. 

- Y RÔL –

Mae’r swydd allweddol hon yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer unigolyn deinamig y mae iddo/iddi hygrededd cydnabyddedig o reoli ar lefel strategol. Y Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu fydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli cynlluniau a phrosiectau strategol, yn arbennig y rheiny sy’n newydd i’r Ganolfan yn ail gam ei ddatblygiad. Bydd hefyd yn arwain ar ddatblygiadau digidol, ynghyd â datblygu a rheoli pob agwedd ar wasanaethau cefnogi corfforaethol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan gynnwys systemau rheoli perfformiad, data, cyllid a sicrhau ansawdd.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. 

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu, bydd arnoch angen y canlynol:

-   Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)

-   Profiad a hygrededd cydnabyddedig fel rheolwr lefel uwch 

-   Dealltwriaeth o ofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol cyfredol yn ymwneud â’r Gymraeg

-   Profiad o ddelio â sefyllfaoedd anodd a rheoli newid

-   Profiad o gynllunio a datblygu chynlluniau strategol a gweithredol gan gynnwys cyllidebau o werth uchel

-   Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i ysbrydoli cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol

-   Y gallu i sefydlu partneriaethau strategol amrywiol

-   Y gallu i arwain tîm o gydweithwyr 

-   Y gallu i flaenoriaethu gwaith, gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol gan ddefnyddio’ch blaengaredd eich hun

-   Yn medru ac yn barod i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen

-   Meddu ar y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn gywir trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:

-   Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn caffael iaith

-   Ymwybyddiaeth o faes Dysgu Cymraeg

-   Ymwybyddiaeth o’r sector Addysg Statudol neu Anstatudol

-   Profiad o arwain meysydd gwasanaethau corfforaethol e.e ansawdd, systemau 

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol. 

Cyflog

💰 £60,000 - £70,000

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau