Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Technegol

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

💰 £42k - £44k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Technegol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Technegol i ymuno â'r tîm.

Cyfle i arwain ar drafodaethau cytundebol, paratoi’r cynlluniau a’r polisïau ar gyfer adeiladu a dymchwel y Maes, ynghyd â chynllunio’r Maes a’i adnoddau, iechyd a diogelwch, y cynllun trafnidiaeth, rheoli contractwyr ar y Maes, cynaliadwyedd a llawer mwy. 

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Ddyletswyddau

- Arwain, cynghori a chynrychioli’r Eisteddfod yn weithredol mewn trafodaethau, gan gynnwys trafodaethau cytundebol, gyda rhanddeiliaid a phartneriaid perthnasol allanol gan sicrhau fod yr holl brosesau cyfreithiol a chydymffurfiaeth perthnasol yn cael eu dilyn. Hyn yn cynnwys asiantaethau allanol megis y BBC a chwmnïau darlledu eraill.

- Arwain trafodaethau a chynghori rhanddeiliaid perthnasol er mwyn paratoi dogfennau cynllunio a pholisïau e.e. cynlluniau trafnidiaeth, polisi llygredd, cynlluniau argyfwng ayyb.

- Paratoi a chyflwyno ceisiadau am y trwyddedau angenrheidiol.

Cynhyrchu, rheoli, a diwygio’r Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau (CRhA) fel bo’r angen.

- Paratoi dogfennau cydymffurfiaeth gan rannu gwybodaeth perthnasol gyda chyd-weithwyr.

- Paratoi, a rheoli’r broses o sicrhau cytundebau ffafriol gyda’r holl gwmnïau sy’n darparu adnoddau technegol i’r Eisteddfod.

- Paratoi ac arwain ar adolygu cynlluniau holl feysydd yr ŵyl gan sicrhau gwasanaethau addas priodol.

- Rheoli iechyd a diogelwch yr ŵyl gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda rheolau CDM.

- Rheoli cynllun trafnidiaeth yr ŵyl.

- Paratoi, adolygu a rheoli amserlen paratoi a dymchwel y Maes.

- Sicrhau bod yr holl drefniadau technegol yn gweithredu’n llyfn ac yn effeithiol yn ystod yr ŵyl.

- Paratoi cynllun ac arolygu’r drefn stiwardio.

- Rheoli contractwyr ar y maes fel bo’n berthnasol e.e. timau diogelwch, glanhau, ayyb.

- Rheoli prosiectau cynllunio a gweithredu holl feysydd yr ŵyl gan gynnwys materion cytundebol, staffio, hyfforddi, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chyllidebau.

- Arwain ar Gynlluniau Cynaliadwyedd y corff.

- Goruchwylio Amserlenni Cynhyrchu Digwyddiadau.

- Rheoli a datblygu staff y storfa.

- Cydgordio a goruchwylio’r cyfundrefnau amrywiol ar Faes yr Eisteddfod e.e. hygyrchedd, rheoli cerbydau.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £41,800 - £44,365. Penodir ar waelod y raddfa.

Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023

Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).

Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £41,800 - £44,365

Lleoliad

📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau