Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Datblygu Sgiliau Academaidd

Prifysgol Aberystwyth

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gydlynydd Datblygu Sgiliau Academaidd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth eisiau penodi cydlynydd datblygu sgiliau academaidd ar sail cyfnod penodol, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau Gwasanaethau Gwybodaeth. Bydd y swydd hon yn cefnogi cydweithwyr yn y GG i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o hyfforddiant sgiliau digidol, llythrennedd gwybodaeth ac academaidd, gan ddarparu gwybodaeth ddwyieithog am sgiliau, deunyddiau ac adnoddau, gan gynnwys cymorth un i un yn ogystal â chreu deunyddiau dysgu ar-lein yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi'r agenda datblygu sgiliau gan gynnwys creu gwefan sgiliau academaidd newydd.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Nia Ellis neu Elizabeth [email protected] / [email protected].

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill. 

- Cysylltu â staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i greu presenoldeb ar-lein hygyrch ar wefan PA i fyfyrwyr a staff gael gwybodaeth am wasanaethau digidol, gwybodaeth a sgiliau academaidd, hyfforddiant a chefnogaeth.

- Hyrwyddo gwasanaethau sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd, hyfforddiant a chymorth i randdeiliaid amrywiol trwy ddulliau gwahanol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau ymgysylltu, digwyddiadau a sgyrsiau yn Gymraeg a Saesneg.Gweithio gyda Chymorth Dysgu i Fyfyrwyr, y tiwtor Sgiliau Academaidd a'r Gwasanaethau Gwybodaeth i drefnu amserlen gwbl ddwyieithog o sesiynau hyfforddi ar gyfer israddedigion ac uwchraddedigion.

- Gweithio gyda myfyrwyr a staff academaidd i nodi gofynion hyfforddi sgiliau Cymraeg.

- Gweithio gyda chydweithwyr i gynhyrchu adnoddau Cymraeg ar gyfer sgiliau academaidd, sy'n cyfateb i adnoddau Saesneg ac fel adnoddau pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

- Canfod a churadu deunyddiau parod i ddarparu hyfforddiant ar-lein ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.

- Gweithio gyda Gyrfaoedd, Gwasanaethau Gwybodaeth a staff academaidd ar sgiliau academaidd ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr e.e. Uwchraddedigion, myfyrwyr nyrsio ac ati.

- Gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth i ddod â chymorth sgiliau ynghyd i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu deall a chael mynediad hawdd at y cyfleoedd sydd ar gael ac i osgoi dyblygu.

- Sicrhau dull cyson o ddarparu hyfforddiant.

- Datblygu, monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth hyfforddiant, gan gynhyrchu adroddiadau i ddangos perfformiad ac effaith, yn ôl y gofyn, a defnyddio hyn i wella a datblygu gwasanaethau.

- Cyfrannu at y gwaith o gynllunio a datblygu darpariaeth sgiliau academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn y dyfodol drwy fod yn aelod o'r Grŵp Sgiliau.

- Cyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.

- Gweithio gyda chydweithwyr yn y GG, yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg a chyda chydweithwyr academaidd er mwyn sicrhau gwasanaeth cyson i fyfyrwyr ar draws pob adran yn y brifysgol.

- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.

- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.

- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.

Cyflog

💰 £24,285 - £27,131 pro rata

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau