Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae S4C yn edrych am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol i arwain strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd mae S4C a’r sector yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru. Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ac ar y sgrin - yn benodol pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o gymunedau di-freintiedig a phobl LHDTC+. 

Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli rhaglen Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu (‘ACLl/ESG’) cyffredinol S4C. Byddwch yn mapio ac yn gweithredu strategaeth i reoli a gwella rheolaeth y sefydliad ar bynciau ACLl/ESG. O fewn cylch gorchwyl y gwaith yma byddwch yn arwain ar faterion amgylcheddol, wrth gydlynu gyda rhanddeiliaid a thimoedd eraill yn S4C i adnabod ffyrdd o wella ein harferion a’n gweithgareddau mewn perthynas â materion amgylcheddol a chynaladwyedd (sustainability).

Mae hon yn rôl newydd fydd yn llywio ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ac yn sicrhau fod S4C yn parhau i ddatblygu ei strategaeth a’i pholisïau i gyfrannu at ffyniant cymdeithasol Cymru ac yn ymateb i gyfleoedd a heriau arbennig. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi weithio gyda thimoedd S4C yn gyffredinol a gyda'n rhanddeiliaid allweddol a'n partneriaid ledled Cymru. Bydd y swydd â chyfrifoldeb i weithredu fel bod y sector sgrin yn gynhwysol a chynrychioladol, yn sicrhau lles y sawl sy’n gweithio ynddo ac i sicrhau bod ein cynnwys yn cael ei greu gyda’r ôl-troed carbon isaf er mwyn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae S4C ar gyfer pawb, a bydd y rôl hon yn gweithredu a gwireddu’r nôd hwn a chreu budd cymdeithasol gan adlewyrchu Cymru.

Mae’r gallu i gyfathrebu i safon dda yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol i’r rôl yma. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 14 Chwefror 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod. 

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau